Dewislen
English
Cysylltwch

Yn 2012, roedd Rachel Dawson yn egin fardd oedd yn mwynhau ysgrifennu a pherfformio barddoniaeth. Ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae hi’n gweithio ar ei hail nofel wedi iddi gael cryn dipyn o lwyddiant gyda’i nofel gyntaf, Neon Roses (John Murray), sydd wedi cyrraedd rhestrau byrion Gwobr Polari, Gwobr Betty Trask a Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Mae’r astudiaeth achos hwn yn archwilio sut y mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyfrannu at siwrne awdur Rachel, o’r cyswllt cyntaf hyd heddiw, lle mae hi’n gwasanaethu fel mentor.

 

Cyswllt gyda Llenyddiaeth Cymru

A group of people sitting on chairs in front of an audience at the Hay Festival
Rachel ac awduron eraill ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn yng Ngŵyl y Gelli. Credit Adam Tatton-Reid & Hay Festival

Daeth Rachel ar draws Llenyddiaeth Cymru am y tro cyntaf trwy Christina Thatcher pan wnaeth hi ymuno â Roath Writers. Barddoniaeth a gair llafar oedd diléit Rachel bryd hynny, ond daeth ei siwrne greadigol i stop oherwydd ei bod mewn swydd anhapus lle cawsai ei thrin yn wael. Ar ôl gadael y swydd hon er mwyn ei lles meddyliol, trodd unwaith eto at ysgrifennu. Y tro hwn, ffuglen oedd yn mynd â’i bryd. Gydag anogaeth gan Christina, gwnaeth gais am Ysgoloriaeth Awdur Newydd gan Llenyddiaeth Cymru, moment allweddol lwyddodd i ailgynnau ei hangerdd dros ysgrifennu.

“Ar y pryd roeddwn yn gweithio’n llawn amser mewn swydd newydd, a feiddiwn i ddim dychmygu gyrfa i fi fy hunan fel awdur.”

A person in a black and white dress sitting at a table talking to another person wearing a pink headscarf
Rachel yn ystod cwrs yn Nhŷ Newydd. Credit FfotoNant

Roedd ein Hysgoloriaethau Awdur Newydd yn rhagflaenu Cynrychioli Cymru, ac yn cynnig gwobr ariannol, mentora un-wrth-un, a chwrs pwrpasol yn Nhŷ Newydd i egin awduron. Roedd y gefnogaeth ariannol wedi galluogi Rachel i gymryd hoe o’i swydd er mwyn canolbwyntio ar gwblhau ei nofel, Neon Roses.

“Roedd cael seibiant o’r gwaith yn rhoi’r amser a’r llonyddwch yr oeddwn ei angen i fireinio Eluned fel cymeriad a rhoi llais i Neon Roses”

Mentor Rachel oedd Rebecca F. John, ac roedd y cwrs a fynychodd dan arweiniad Katherine Stansfield. Cafodd y mentora gan Rebecca a’r gweithdai gyda Katherine effaith ddwys ar ddatblygiad Rachel. Roedd sesiynau Katherine ar gymeriad, llais a safbwynt yn arbennig o ddylanwadol, ac ers hynny mae Rachel wedi ymgorffori’r gwersi hyn pan mae hithau’n mynd ati i ddysgu eraill. Roedd adborth cynhwysfawr Rebecca yn amhrisiadwy – o’i chraffter golygyddol o un llinell i’r llall, i gyngor strwythurol. Golygodd hynny fod y broses o ail-ddrafftio yn llwyddiannus. Darparodd gyfarwyddyd hefyd ar sut i ddeall a gwneud ei ffordd drwy’r diwydiant cyhoeddi, yn enwedig materion fel mynd at asiantau a chyhoeddwyr, marchnata a ffeindio eich lle yn y diwydiant.

A group of people standing in front of a house
Llun Grŵp o aelodau Cwrs Mentora 2020 yn Nhŷ Newydd. Credit FfotoNant

“Roedd Rebecca yn hael iawn gyda’i hamser ac fe roddodd ystod enfawr o adborth i mi. Rhoddodd lawer o gyngor realistig, di-lol iawn i mi am y diwydiant cyhoeddi, a chredaf fod hyn yn allweddol yn fy nghynrychiolaeth yn gymharol gyflym.”

Roedd derbyn Ysgoloriaeth gan Llenyddiaeth Cymru yn ardystiad o’i gallu, ac yn hollbwysig wrth chwilio am asiant. Roedd hynny oherwydd bod ei llwyddiant mewn cyfleoedd cystadleuol a’i mentora gan Rebecca F. John yn rhoi rhagor o hygrededd iddi. Cyhoeddwyd Neon Roses gan John Murray Press yn 2023, ac mae Rachel yn cydnabod cefnogaeth Llenyddiaeth Cymru yn y llyfr. Mae’r nofel wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Polari, Gwobr Betty Trask a Gwobr Llyfr y Flwyddyn, ac mae’n nodi fod hynny’n garreg filltir gyffrous.

A person in a black dress and wearing red lipstick standing in front of a brick wall
Rachel Dawson. Credit R. E. Dixon

Yn 2024 dewiswyd Rachel i fod yn un o garfan Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli. Roedd y cyfle yn ysgubol a chyfoethog – “cyfle unigryw, sydd ond yn cael ei gynnig unwaith mewn oes!”. Yn ystod y rhaglen plannwyd hedyn ail nofel, sy’n archwilio bod yn rhiant cwiar a chariad at hanes, ac mae’n datblygu’r syniad ar hyn o bryd.

Un o’r buddion mwyaf i Rachel yn sgil ei chysylltiad â Llenyddiaeth Cymru yw’r cyfeillion y mae hi wedi eu darganfod, a’r cysylltiadau a rhwydweithiau y mae hi wedi eu meithrin. Mae hi’n parhau fod mewn cyswllt rheolaidd gydag awduron y treuliodd amser gyda nhw yn Nhŷ Newydd a Gŵyl y Gelli, ac yn eu hystyried yn gyfeillion agos. Mae wedi cynnal cysylltiadau cyfoethog gydag unigolion o’r un anian yn ogystal â chysylltiadau proffesiynol defnyddiol, gan feithrin rhwydwaith cefnogol.

Yn fwy diweddar, mae Rachel wedi gweld ei hun yn trawsnewid yn “awdur wrth ei gwaith”. Mae hi’n defnyddio gwefan Llenyddiaeth Cymru i wella ei phlatfform – mae ganddi broffil ar Restr Awduron Cymru, ac mae’n rhestru digwyddiadau ar y dudalen Digwyddiadau. Mae Rachel yn cymryd rhan mewn darlleniadau a seminarau, ac mae’n cael cynnig cyfleoedd â thâl i weithio fel awdur y tu hwnt i wasanaethau a phrosiectau Llenyddiaeth Cymru.

A person on stage with a screen behind them showing books.
Neon Roses ymysg teitlau gyrhaeddodd restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024

“Er bod gen i swydd gyflogedig nad yw’n ysgrifennu o hyd, mae bod yn gysylltiedig â Llenyddiaeth Cymru yn gwneud i mi deimlo fy mod i wir yn awdur, ac yn rhan o dirwedd lenyddol Cymru.”

Ar hyn o bryd, mae Rachel yn un o fentoriaid Cynrychioli Cymru. Hi oedd dewis cyntaf y person mae hi’n ei fentora. Yn 2025 bydd yn ddarllenydd gwadd yn Nhŷ Newydd am y tro cyntaf. Mae’n gobeithio datblygu’r gwaith hwn, yn gobeithio gweithio fel tiwtor a mentor, a chael y cyfle i drosglwyddo’r hyn y mae wedi ei ddysgu i eraill.

“Rydw i mor hapus i fod yn fentor Cynrychioli Cymru. Ar ôl derbyn gwasanaeth mentora mor dda fy hunan, mae’n teimlo fel bod y cylch yn gyflawn! Rydw i wedi cyrraedd pwynt lle gallaf roi rhywbeth yn ôl, a darparu gwasanaeth ar ran Llenyddiaeth Cymru. Rwy’n teimlo’n ffodus iawn i fod yn fentor a chael rhywun yn ymddiried eu gwaith imi. Mae’n gymaint o fraint!”

Casgliad

Mae taith Rachel gyda Llenyddiaeth Cymru yn dangos pa mor bwerus a thrawsnewidiol gall cefnogaeth a mentoriaeth fod yn y byd llenyddol. O ailgynnau angerdd tuag at ysgrifennu, i’w helpu i gyflawni cerrig milltir broffesiynol, rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan fach yn nhaith Rachel i lywio ei gyrfa ysgrifennu a meithrin cymuned lenyddol fywiog.

 

Nôl i Astudiaethau Achos