Buddiannau Gweithwyr a Datblygiad Proffesiynol
Mae iechyd a lles ein pobl yn bwysig i ni. Yn ogystal â gwyliau hael, mae ein gweithwyr hefyd yn cael eu cefnogi trwy hyfforddiant a datblygiad proffesiynol. Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith hyblyg, ac mae gan weithwyr fynediad at:
- Bolisïau i gefnogi teuluoedd a phobl â chyfrifoldebau gofalu
- Arferion gwaith hybrid ac ystwyth
- Gostyngiadau mewn siopau dethol ym Mae Caerdydd, gan gynnwys yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
- Gostyngiadau ar gyrsiau a llogi safle yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
- Gostyngiadau Gweithiwr Elusennol, e.e. https://www.charityworkerdiscounts.com/
- Cynllun Beicio i’r Gwaith
- Hyd at bedair diwrnod i wirfoddoli bob blwyddyn (pro rata)
- Gwyliau Cwmni yn cynnwys Dydd Gwyl Dewi (1 Mawrth)
- Diwrnod staff i ffwrdd o’r swyddfa yn flynyddol
- Llais drwy ymgynghori ar gynllunio creadigol a strategol.