Gwirfoddoli
Gall gwirfoddoli fod yn gyfle i ymgysylltu â byd gwaith, cefnogi ein cymunedau lleol, dysgu sgiliau newydd neu fagu hyder ac ehangu gwybodaeth.
Rydym yn awyddus i recriwtio unigolion sy’n cael eu tangynrychioli yn y sectorau llenyddol a diwylliannol ar hyn o bryd neu’n gyson, a’n nod yw darparu amgylchedd diogel a chefnogol i bobl sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol i wirfoddoli.
Os ydych yn awyddus i wirfoddoli gyda ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Anfonwch e-bost atom: post@llenyddiaethcymru.org