Gyrfaoedd a Chyfleoedd
Mae Llenyddiaeth Cymru yn cydnabod cyfraniad ei weithwyr, ac wedi ymrwymo i ddarparu amodau gwaith da ac amgylchedd gwaith iach. Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad ein gweithwyr, ein hwyluswyr, ein hawduron a’n hymarferwyr creadigol – maen nhw wrth galon popeth rydym ni’n ei wneud.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi pawb yn eu rôl ac yn cynnig ystod o gyfleoedd i hyfforddi yn fewnol ac yn allanol. Yn ogystal ag Adolygiad Datblygu Proffesiynol blynyddol, bydd pob aelod o staff yn cael sesiynau rheolaidd gyda’u rheolwr llinell i sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i lwyddo yn eu rôl. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, ac yn gweithredu model gweithio hyblyg a hybrid. Rydym yn cynnig gwyliau hael i’n tîm, yn cynnwys pen-blwydd, ac yn agored i drefniadau gweithio hyblyg.
Nod Llenyddiaeth Cymru yw bod yn sefydliad cynhwysol ac rydym wedi ymrwymo i groesawu ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd. Rydym yn asesu ceisiadau ar gryfder potensial, a byddwn yn gweithredu’n gadarnhaol drwy warantu cyfweliad i bob ymgeisydd sy’n cwrdd â gofynion addasrwydd y rôl, ac sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector llenyddol. Ein nod yw datblygu llenyddiaeth fel ffurf ar gelfyddyd sy’n gynrychioliadol ac yn hygyrch i bawb yng Nghymru. Credwn mai’r ffordd orau o gyflawni’r nod hwnnw yw creu gweithlu amrywiol gyda phrofiadau bywyd amrywiol.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Cynllun Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, 2022-25. Os hoffech ymgeisio am y rôl hon, ond yn ansicr os oes profiad digonol gennych, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.
Mae ein fframwaith recriwtio wedi ei ddatblygu fel rhan o raglen Weston Jerwood Creative Bursaries sy’n cefnogi mudiadau celfyddydol yn eu hymdrechion i ehangu eu hagwedd tuag at recriwtio a datblygu talent amrywiol.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweithio yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwyieithog ledled Cymru. Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy yw ein pencadlys, sy’n cynnwys canolfan breswyl a swyddfa. Mae gennym hefyd swyddfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd.