Gyrfaoedd a Chyfleoedd
Mae Llenyddiaeth Cymru yn cydnabod cyfraniad ei weithwyr, ac wedi ymrwymo i ddarparu amodau gwaith da ac amgylchedd gwaith iach. Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad ein gweithwyr, ein hwyluswyr, ein hawduron a’n hymarferwyr creadigol – maen nhw wrth galon popeth rydym ni’n ei wneud.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi pawb yn eu rôl ac yn cynnig ystod o gyfleoedd i hyfforddi yn fewnol ac yn allanol. Yn ogystal ag Adolygiad Datblygu Proffesiynol blynyddol, bydd pob aelod o staff yn cael sesiynau rheolaidd gyda’u rheolwr llinell i sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i lwyddo yn eu rôl. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, ac yn gweithredu model gweithio hyblyg a hybrid. Rydym yn cynnig gwyliau hael i’n tîm, yn cynnwys Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth), ac yn agored i drefniadau gweithio hyblyg.
Nod Llenyddiaeth Cymru yw bod yn sefydliad cynhwysol ac rydym wedi ymrwymo i groesawu ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd. Rydym yn asesu ceisiadau ar gryfder potensial, a byddwn yn gweithredu’n gadarnhaol drwy warantu cyfweliad i bob ymgeisydd sy’n cwrdd â gofynion addasrwydd y rôl, ac sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector llenyddol. Ein nod yw datblygu llenyddiaeth fel ffurf ar gelfyddyd sy’n gynrychioliadol ac yn hygyrch i bawb yng Nghymru. Credwn mai’r ffordd orau o gyflawni’r nod hwnnw yw creu gweithlu amrywiol gyda phrofiadau bywyd amrywiol.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Cynllun Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, 2022-25. Os hoffech ymgeisio am y rôl hon, ond yn ansicr os oes profiad digonol gennych, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.
Mae ein fframwaith recriwtio wedi ei ddatblygu fel rhan o raglen Weston Jerwood Creative Bursaries sy’n cefnogi mudiadau celfyddydol yn eu hymdrechion i ehangu eu hagwedd tuag at recriwtio a datblygu talent amrywiol.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweithio yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwyieithog ledled Cymru. Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy yw ein pencadlys, sy’n cynnwys canolfan breswyl a swyddfa. Mae gennym hefyd swyddfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweithio yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwyieithog ledled Cymru. Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy yw ein pencadlys, sy’n cynnwys canolfan breswyl a swyddfa. Mae gennym hefyd swyddfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd.