Swyddi Gwag a Chyfleoedd Presennol
Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr misol a cadwch olwg ar y dudalen hon ac ar Twitter / Facebook am unrhyw gyfleoedd sy’n codi.
SWYDD WAG: CEFNOGAETH GREADIGOL
I ddechrau cyn gynted â phosib
Cyflog: £24,500 pro rata
Dyddiad Cau: Dydd Llun 5 Mai 2025 Cyfweliadau*: Dydd Iau 15 Mai 2025
Lleoliad: Rydym yn dîm cydweithredol sy’n gweithio ledled Cymru, gyda swyddfeydd yn Llanystumdwy a Chaerdydd. Rydym yn gweithio mewn modd hybrid ac mae angen presenoldeb yn un o’r swyddfeydd o bryd i’w gilydd, ond gellir cyflawni cyfran fawr o’r rôl hon wrth weithio gartref. Os gallai mynychu’r swyddfa eich atal rhag gwneud cais am unrhyw reswm, anfonwch e-bost atom i drafod eich sefyllfa ymhellach.
*Nod Llenyddiaeth Cymru yw bod yn sefydliad cynhwysol, sy’n ymroddedig i groesawu ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd. Rydym yn asesu ceisiadau ar gryfder potensial, a byddwn yn cymryd camau cadarnhaol drwy warantu cyfweliad i bob ymgeisydd sy’n bodloni gofynion addasrwydd y rôl ac sy’n nodi yn eu cais eu bod yn cael eu tangynrychioli o fewn y sector llenyddol.