Dewislen
English
Cysylltwch

 

Yr egwyddorion ar gyfer cyflawni’r cynllun

Wrth gyflawni’r Cynllun Strategol hwn, byddwn yn cofio bod angen gwneud y canlynol:

  • Bod yn gydnerth a gweithredu’n gynaliadwy er mwyn cael effaith hirdymor – gan gynnwys buddsoddi ar yr amser cywir, a sicrhau cynllunio rhesymegol, gofalus;
  • Ymchwilio i’r angen a’r galw presennol, ac ystyried ein darganfyddiadau wrth fynd ati i ddatblygu gweithgareddau;
  • Gweithio mewn partneriaeth ag eraill yn y sector llenyddol a thu hwnt er mwyn manteisio ar gyfleoedd;
  • Cydweithio gydag awduron a phencampwyr o gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli, yn ogystal ag arbenigwyr yn y maes, er mwyn sicrhau bod cynnwys a strwythur prosiectau yn addas i’n cleientiaid, ac i gynyddu’r cyfleoedd recriwtio a’n prosesau llywodraethu;
  • Rhoi lle amlwg i nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac ystyried sut y gall ein gwaith helpu pobl eraill i’w cyflawni;
  • Bod yn ymwybodol o ddatblygiadau mewn dulliau cyfathrebu a thechnoleg digidol, ac addasu ein gweithgareddau yn unol â hynny pan fydd modd;
  • Cefnogi targed Llywodraeth Cymru i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.