Dewislen
English
Cysylltwch

Darllenwch drwy ein Telerau ac Amodau, ein Hysbysiad Preifatrwydd GDPR a’n Polisi Cwcis yn ofalus, gan eu bod yn amlinellu’r gofynion cyfreithiol arnom ni fel perchennog y wefan hon ac arnoch chi fel ymwelydd â’r wefan hon.

Wrth ddefnyddio’r wefan hon rydych yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn fel yr oeddent yn gymwys ar ddyddiad eich ymweliad cyntaf, ac yn cytuno i lynu atynt. Fe’ch cynghorwn i ddod yn ôl atynt yn rheolaidd, gan ein bod yn cadw’r hawl i’w diweddaru unrhyw bryd.

Llywodraethir y Telerau ac Amodau hyn gan gyfreithiau Cymru a Lloegr, a lywodraethir gan gyfraith contractau a mesurau rheoliadol y Deyrnas Unedig. Bydd unrhyw anghydfod a gyfyd o’r telerau ac amodau hyn, neu yn sgil eich defnydd o’r wefan hon, yn destun awdurdodaeth neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr.

Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r wefan hon at ddibenion cyfreithlon yn unig, mewn modd nad yw’n cyfyngu, yn llyffetheirio nac yn tresmasu ar ddefnydd a mwynhad y wefan hon gan unrhyw drydydd parti, nac yn tresmasu fel arall ar hawliau unrhyw drydydd parti.

 

  1. Diffiniadau

Mae Llenyddiaeth Cymru yn  Gwmni Wedi ei Gyfyngu Drwy Warant ac yn Elusen.

Rhif Cwmni Cofrestredig 7779153

Rhif Elusen Gofrestredig 1146560

 

Mae ei brif swyddfa wedi ei leoli yn:

Llenyddiaeth Cymru

Tŷ  Newydd

Llanystumdwy

Cricieth

Gwynedd LL52 0LW

 

Yn ogystal, mae gan Llenyddiaeth Cymru swyddfa yng Nghaerdydd:

Llenyddiaeth Cymru

Canolfan Glyn Jones

Canolfan Mileniwm Cymru

Plas Bute

Caerdydd CF10 5AL

Ystyr y “wefan” yw “www.llenyddiaethcymru.org” ac unrhyw un o’r tudalennau a geir ar y parth hwnnw.

Mae “chi” ac “eich” yn cyfeirio at y sawl sy’n mynd i’r wefan.

Mae “ni” ac “ein” yn cyfeirio atom ni a’n sefydliad ni yn unig.

Ystyr “deunydd” yw unrhyw wybodaeth, boed destun, ffotograffau, graffeg, nodau masnach, logos, dolenni, cod rhaglennu, data neu unrhyw ddeunydd arall a gyhoeddir, a gynhwysir neu sydd ar gael ar y wefan hon.

 

  1. Deunydd ar y wefan hon

Mae’r deunydd a gyhoeddir ar y wefan hon wedi’i ddarparu i chi at ddibenion gwybodaeth yn unig. Ni roddwn unrhyw warant ynglŷn â chywirdeb na dibynadwyedd unrhyw ddeunydd sydd wedi’i gyhoeddi ar y wefan hon, ac ar eich menter eich hun y dibynnwch arno. Gallwn wneud newidiadau i’r deunydd ar y wefan hon ar unrhyw bryd, heb roi rhybudd. Gall deunydd ar y wefan hon gynnwys gwallau, o ran teipio neu fel arall, a gall fod yn hen wybodaeth. Nid ydym yn ymrwymo i ddiweddaru’r deunydd hwn ac ni fwriedir iddo gymryd lle cyngor proffesiynol.

Ni allwn ni nac unrhyw drydydd parti a grybwyllir ar y wefan hon gymryd unrhyw gyfrifoldeb am sut y defnyddiwch y wybodaeth a ddarperir ar y wefan.

Mae’r wefan wedi’i hadeiladu mewn modd sy’n cydymffurfio â chyfreithiau’r Deyrnas Unedig a safonau hygyrchedd rhyngwladol. Ni allwn warantu y bydd unrhyw ddeunydd a gynhwysir arni yn cydymffurfio nac yn briodol i’w ddefnyddio mewn gwledydd ac awdurdodaethau eraill.

 

  1. Atebolrwydd

Nid ydym ni, na neb arall fu’n ymwneud â chreu, cynhyrchu, cynnal neu gyflwyno’r wefan, yn derbyn atebolrwydd am y canlynol:

  • unrhyw faint neu fath o golled neu ddifrod (yn cynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol, cosbol neu ganlyniadol)
  • unrhyw golli incwm, elw, ewyllys da, data, contractau, defnydd o arian, neu golled neu ddifrod yn deillio o neu’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag ymyriad â busnes
  • boed hynny mewn camwedd (yn cynnwys, heb gyfyngiad, esgeulustra, boed mewn contract neu fel arall) mewn cysylltiad â’ch defnydd, eich anallu i ddefnyddio neu ganlyniadau defnyddio’r wefan, unrhyw wefannau cysylltiedig â’r wefan neu’r deunydd ar y cyfryw wefannau.

 

Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • unrhyw golled neu ddifrod yn sgil firysau a all heintio eich offer cyfrifiadurol, meddalwedd, data, neu eiddo arall
  • unrhyw golled neu ddifrod a gyfyd wedi ichi ymweld, defnyddio neu bori’r wefan, neu wedi ichi lawr lwytho unrhyw ddeunydd o’r wefan neu unrhyw wefannau cysylltiedig â’r wefan.

 

Os bydd defnyddio’r wefan yn peri ichi fod angen talu am wasanaethu, trwsio neu gywiro eich offer, eich meddalwedd neu’ch data, chi fydd yn gyfrifol am dalu’r cyfan o’r gost am hyn.

Ni fydd dim yn y Telerau ac Amodau hyn yn eithrio nac yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan esgeuluster (fel y diffinnir y term hwnnw yn Neddf Telerau Contract Annheg 1977, twyll, neu gamliwiad ynghylch mater sylfaenol.

 

  1. Gwybodaeth am hawlfraint

Mae pob nod masnach, logo, graffeg, delwedd, ffotograff, fideo, animeiddiad, testun a meddalwedd a ddefnyddir ar y wefan hon yn parhau i fod yn eiddo deallusol i ni. Dim ond at eich defnydd personol y cewch chi arddangos, argraffu, atgynhyrchu a defnyddio’r deunydd hwn. Heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw, ni chewch adalw, defnyddio, arddangos, copïo, addasu, argraffu, gwerthu, hurio, lawr lwytho nac ôl-beiriannu’r cyfryw gynnwys.

 

  1. Dolenni’n arwain oddi ar y wefan hon

Lle darparwn ddolenni i wefannau eraill, gwnawn hynny at ddibenion gwybodaeth yn unig. Nid ydym wedi dilysu cynnwys unrhyw wefannau o’r fath gan eu bod y tu hwnt i’n rheolaeth resymol. Nid ydym yn gyfrifol am y deunydd a gyhoeddir ar unrhyw wefannau, tudalennau, dogfennau nac adnoddau eraill y cysylltir â hwy drwy ein gwefan neu ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Rydych yn dewis dilyn dolenni i wefannau eraill ar eich menter eich hun. Eich cyfrifoldeb chi yw cymryd camau i warchod rhag firysau, elfennau dinistriol neu ddeunydd annifyr ar wefannau eraill.

 

  1. Creu dolenni i’r wefan hon

Croesawn ddolenni i’r wefan hon ac at y deunydd a’r wybodaeth a gyflwynir ar y tudalennau hyn. Nid oes raid i chi ofyn ein caniatâd i greu dolen i’r wefan hon, ond cadwn yr hawl i ddefnyddio offer Disavow Links Google, sy’n gofyn i Google anwybyddu unrhyw ddolenni i’n safle sydd yn ein tyb ni yn amhriodol, yn sbamllyd, o ansawdd isel neu’n debygol o niweidio ein statws a’n henw da mewn unrhyw ffordd arall.

 

  1. Mynediad i’r wefan

Ceisiwn sicrhau bod y wefan ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ond ni allwn warantu hynny 100%. Ni fyddwn yn atebol os na fydd y wefan ar gael, am ba reswm bynnag, am unrhyw gyfnod o amser, gan y gall methiant y system, gwaith atgyweirio a chynnal a chadw, a rhesymau eraill y tu hwnt i’n rheolaeth beri atal y wefan heb rybudd.

 

  1. Defnyddwyr y Wefan

Mae’r wefan wedi ei adeiladu yn gyson â chyfreithiau’r DU a safonau hygyrchedd rhyngwladol. Ni allwn warantu y bydd unrhyw ddeunydd sydd ar y wefan yn cydymffurfio neu yn briodol am ddefnydd o fewn gwledydd neu awdurdodaethau eraill.

Ni ddylech fwriadu i dwyllo unrhyw berson trwy eich cyfraniadau, ac mae cynnwys difenwol, aflan, ymosodol, enynnol, echblyg rywiol neu fygythiol wedi ei wahardd.

Dylid eich cyfraniadau beidio â hybu trais neu wahaniaethu ar draul hil, rhyw, crefydd, cenedligrwydd, anabledd, gogydd rhywiol, neu oedran unrhyw berson.

Ni ddylech bersonadu unrhyw berson, neu gam-gyflwyno eich hunaniaeth neu eich cysylltiad gydag unrhyw berson, sefydliad neu gorff rheoleiddio mewn modd sydd yn cam-arwain darllenwyr eich cyfraniadau i’r wefan.

 

  1. Methiant i gydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn

Gall unrhyw dor-amod neu fethiant i gydymffurfio â’r telerau hyn arwain at unrhyw rai o’r camau canlynol:

  • tynnu eich hawl i ddefnyddio’r wefan hon, boed yn syth bin, yn ddiweddarach, dros dro neu’n barhaol;
  • dileu unrhyw gynnwys a lwythwyd gennych i’r fforymau neu i’r wefan, boed yn syth bin, yn ddiweddarach, dros dro neu’n barhaol;
  • cyhoeddi rhybudd yn eich erbyn;
  • datgelu i awdurdodau gorfodi’r gyfraith unrhyw wybodaeth a fo’n angenrheidiol yn ein tyb rhesymol ni.

Nid ydym yn derbyn atebolrwydd am gamau a gymerir mewn ymateb i dorri’r polisi hwn ar ddefnydd derbyniol. Nid yw’r rhestr o gamau’n hollgynhwysol, a gallwn gymryd camau eraill a fo’n briodol yn ein tyb ni.

 

  1. Preifatrwydd a diogelu data

Rydym wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd. Am wybodaeth bellach ynglŷn â sut y gwnawn hyn, darllenwch drwy ein Hysbysiad Preifatrwydd a’n gwybodaeth am y cwcis a ddefnyddiwn ar y wefan hon.

 

  1. Cydymffurfio â deddfwriaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd

Mae’r wefan hon yn ceisio cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 a chanllawiau’r Sefydliad Hygyrchedd Gwefannau (WAI), a gyhoeddwyd gan Gonsortiwm y We Fyd-eang (W3C), consortiwm o 385 o gyrff sy’n cynghori ac yn addysgu am safonau ar gyfer technolegau’r we.

Os teimlwch nad yw’r wefan hon yn hygyrch, neu os cewch drafferth wrth ei defnyddio, rhowch wybod inni’n syth er mwyn i ni gael datrys y broblem. Gallwch gyflwyno adroddiad am unrhyw wefan â phroblemau hygyrchedd hefyd i Fix the Web, gwefan sy’n gweithio i wella hygyrchedd y we i ddefnyddwyr anabl.

 

  1. Polisi Ad-daliad

Gellir gweld y Polisi Ad-daliad ar gyfer cyrsiau Tŷ Newydd yn yr adran Termau ac Amodau ar wefan Tŷ Newydd: www.tynewydd.cymru

 

  1. Manylion y Cwmni

Enw’r Cwmni: Llenyddiaeth Cymru

Wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr

Cyfeiriad cofrestredig: Llenyddiaeth Cymru, Canolfan Glyn Jones, Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Caerdydd CF10 5AL

Rhif y Cwmni: 07779153

Rhif Elusen: 1146560

Gwybodaeth gyswllt: 029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org