Gwenno Ffrancon
MwySioned Puw Rowlands
MwyDafydd Lennon
MwyBeirniaid y Paenl Saesneg
MwyIfor ap Glyn
Mae Ifor ap Glyn yn awdur, darlledwr ac yn gyn-Fardd Cenedlaethol Cymru (2016–22). Mae’n Brifardd ar ôl ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith – yn 1999 ac eto yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2013. Mae wedi cyhoeddi chwe chasgliad o gerddi a’r diweddaraf yw Rhwng Dau Olau (Gwasg Carreg Gwalch, 2021). Mae hefyd wedi cyhoeddi nofel am ei fagwraeth yn Llundain Tra Bo Dau (2016) a nifer o lyfrau ffeithiol, gan gynnwys Lleisiau’r Rhyfel Mawr (2008) a Hanes yr Iaith mewn Hanner Can Gair (2018), oll wedi eu cyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch. Mae wedi ennill nifer o wobrau am ei waith ym myd y teledu a radio, fel cyflwynydd a chynhyrchydd. Wedi ei fagu yn Llundain, mae bellach yn byw yng Nghaernarfon.
Gwenno Ffrancon
Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg, ei Threftadaeth a'i Diwylliant ym Mhrifysgol Abertawe yw Gwenno Ffrancon, lle mae ganddi gyfrifoldeb strategol dros sicrhau bod y Gymraeg, diwylliant a threftadaeth yn rhan annatod o bob agwedd ar fywyd y brifysgol. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Academi Hywel Teifi y Brifysgol a Rheolwr Tŷ’r Gwrhyd, Canolfan Gymraeg Cwm Tawe.
Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth cyn dechrau gyrfa fel academydd ac ymchwilydd ym maes hanes ffilm, y cyfryngau a diwylliant gweledol ym Mhrifysgol Bangor ac yna Prifysgol Abertawe. Mae hi wedi cyhoeddi a darlithio'n helaeth am ffilm, teledu a diwylliant Cymraeg, gan gynnwys y cyfrolau, Cyfaredd y Cysgodion: Delweddu Cymru a’i Phobl ar Ffilm (Gwasg Prifysgol Cymru, 2003) a Llais Cenedl: Bywyd a Gwaith John Roberts Williams (Gwasg Gwynedd, 2008).
Daw o Flaenplwyf yng Ngheredigion yn wreiddiol, ond mae hi bellach wedi ymgartrefu yng Nghwm Tawe, lle mae’n weithgar fel Cynghorydd Tref a chydag amrywiol fentrau lleol sy’n cefnogi’r Gymraeg a’r celfyddydau.
Sioned Puw Rowlands
Mae Dr Sioned Puw Rowlands yn awdur, golygydd ac ysgolhaig o Aberystwyth. Mae ganddi gefndir academaidd yn Rhydychen, gan gynnwys D.Phil mewn Llenyddiaeth Gymharol o Goleg St Antony’s.
Bu’n gweithio i Gyngor Celfyddydau Cymru ac i Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru am gyfnod. Mae hefyd ymhlith sylfaenwyr y rhwydwaith Ewropeaidd, Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau.
Mae ei chyhoeddiadau’n cynnwys cyfrolau fel Byd y Nofelydd (Y Lolfa, 2003), Diogi a Chynhyrfu (Gwasg Gwynedd, 1996) a Hwyaid, Cwningod a Sgwarnogod (Gwasg Prifysgol Cymru, 2006), ac mae hi wedi cyd-olygu The Babel Guide to Welsh Literature. Mae hi hefyd yn olygydd i’r cylchgrawn llenyddol a beirniadol, O’r Pedwar Gwynt.
Dafydd Lennon
Ers 2022, mae Dafydd wedi dod yn wyneb cyfarwydd i blant Cymru fel cyflwynydd Cyw ar S4C. Yn wreiddiol o’r Barri, symudodd i Lundain yn 2018 i weithio ar brosiect celfyddydol ‘Steve McQueen Year 3’ ar gyfer Tate, gan gyfrannu fel ffotograffydd ac ymarferydd drama mewn dros 250 o ysgolion. Bu hefyd yn gynorthwyydd addysgu i blant 4–11 oed, ac yn 2022 cafodd ei gomisiynu gan BookTrust Cymru i gyfansoddi a recordio cerddi a chaneuon dwyieithog ar gyfer Amser Rhigwm Mawr Cymru. Yn fwy diweddar, mae wedi gwasanaethu ar baneli beirniadu ar gyfer Bardd Plant Cymru 2023, BAFTA Cymru Cyflwynydd y Flwyddyn 2023, a BAFTA Cyflwynydd Ifanc y Flwyddyn 2024.
Beirniaid y Paenl Saesneg
Zoë Skoulding
Mae Zoë Skoulding yn fardd ac yn feirniad llenyddol sy’n archwilio trawsieithu, sain ac ecoleg yn ei gwaith. Mae’n Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor ac yn byw ar Ynys Môn. Mae wedi cyhoeddi chwe chasgliad o farddoniaeth, gan gynnwys A Marginal Sea (Carcanet Press, 2022) a Footnotes to Water (Seren, 2019), enillydd Gwobr Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2020. Ymhlith ei chyhoeddiadau beirniadol mae’r monograffau Contemporary Women’s Poetry and Urban Space: Experimental Cities (Palgrave Macmillan, 2013) a Poetry & Listening: The Noise of Lyric (Liverpool University Press, 2020). Bu’n olygydd ar y cylchgrawn rhyngwladol chwarterol Poetry Wales rhwng 2008 a 2014.
***
Catrin Kean
Mae Catrin Kean yn awdur arobryn; enillodd ei nofel gyntaf Salt (Gwasg Gomer) Wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2021 ac fe’i darlledwyd fel Book at Bedtime ar BBC Radio 4 ym mis Chwefror 2026. Dewiswyd ei stori fer ‘Dŵr’, a gomisiynwyd gan Short Works BBC Radio 4, ar gyfer Best British Short Stories 2025 (Salt Publishing). Mae ei straeon byrion eraill wedi ymddangos yn Riptide Anthology, Bridge House Annual Anthologies, Syncopation Journal a The Ghastling. Ar hyn o bryd mae’n datblygu sgrinlen ar gyfer ffilm nodwedd, yn gweithio ar ei thrydydd nofel ac yn casglu straeon byrion ar gyfer cyfrol newydd.
***
Shirish Kulkarni
Mae Shirish Kulkarni yn newyddiadurwr, ymchwilydd a threfnydd cymunedol gyda dros dri degawd o brofiad yn y maes. Mae wedi gweithio mewn nifer o ystafelloedd darlledu newyddion ar draws y DU ac yn The Bureau of Investigative Journalism. Ar hyn o bryd mae gwaith Shirish yn canolbwyntio ar arloesi, cynhwysiant a’r celfyddydau, gyda diddordeb arbennig mewn dulliau newydd o adrodd straeon, ymgysylltu cymunedol a ffyrdd o newid naratif a systemau. Ef yw sylfaenydd Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru, rhwydwaith sydd wedi’i sefydlu i gysylltu, cefnogi ac ymgyrchu ar ran newyddiadurwyr ymylol yng Nghymru.
***
Julie Golden
Mae Julie Golden yn Oruchwylydd Llyfrgell â brwdfrydedd dros ddarllen, ymgysylltiad cymunedol a dysgu gydol oes. Mae’n arwain tîm ymroddedig yn Llyfrgell Maesteg, sy’n rhan o Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, ac enillodd le ar y rhestr CILIP 125 - dathliad o 125 o weithwyr llyfrgell a gwybodaeth ar ddechrau eu gyrfa sy’n cael eu cydnabod am eu cyfraniad cadarnhaol i’r sector.
Cyn dechrau ei gyrfa mewn llyfrgelloedd, bu’n gweithio fel newyddiadurwraig dan hyfforddiant, cynghorydd gwasanaeth cwsmeriaid yn y sector bancio, ac yn yr Adran Gwaith a Phensiynau. Treuliodd chwe mis yn gweithio ym Mumbai ac mae hefyd wedi gwasanaethu fel Arweinydd Sgowtiaid. Mae wedi bod yn Oruchwylydd Llyfrgell Maesteg ers 2021, gan wasanaethu’r gymuned y cafodd ei magu ynddi ac sydd dal yn gartref iddi. Yn ddiweddar, symudodd hi a’i thîm i adeilad newydd o fewn Neuadd y Dref Maesteg.