Dewislen
English
Cysylltwch

 

 

Ers graddio o Brifysgol Y Drindod Dewi Sant fel actor, mae Connor Allen wedi gweithio gyda chwmnïau fel Theatr Torch, Theatr y Sherman, Theatr Tin Shed a National Theatre Wales. Mae’n aelod o Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain ac fe enillodd rownd Caerdydd o’r Triforces MonologueSlam, gan gynrychioli Cymru yn Llundain ar gyfer rownd yr enillwyr. Fel awdur, mae wedi ysgrifennu ar gyfer Dirty Protest, Y Sherman, a BBC Cymru. Derbyniodd nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer ei ddrama gyntaf, yn ogystal â chomisiwn gan Llenyddiaeth Cymru ar gyfer ei wefan, 27. Mae hefyd yn rhan o’r BBC Wales Welsh Voices 19/20 a Grŵp Awduron Cymreig y Royal Court.