Mae Steffan Wilson-Jones yn sgwennwr dwyieithog o Ddyffryn Clwyd, sydd bellach yn byw yn Nghaerdydd. Mae’n mwynhau pob math o ysgrifennu, gyda brwdfrydedd mawr am hunaniaeth Gymreig, comedi tywyll a gwleidyddiaeth. Mae Steffan wedi gweithio i Theatr Cymru fel Cynhyrchydd Cynorthwyol, wedi gweithio fel Cynhyrchydd Cynorthwyol ar y ffilm ‘Y Sŵn’ gan Roger Williams, a fel Golygydd Sgript ar Pobol y Cwm, yn ogystal a sgwennu pennod i’r rhaglen. Fe gafodd ei stori fer, Awrgym o Wawr, ei gyhoeddi yng nghyfrol Sebra, Pelydrau, yn 2025. Mi oedd yn aelod o Cynrychioli Cymru 2025-2026 (Llenyddiaeth Cymru) lle gafodd ei fentora gan Llwyd Owen, a bellach yn gweithio ar ei nofel gyntaf fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2027, ac yn y camau cyntaf o sioe gerdd newydd gyda Cynyrchiadau Onnen. Mae’n edrych ymlaen i barhau i sgwennu ac ar gyfer y camau nesaf yn ei yrfa.