Mae Megan Lloyd (hi/ei) yn sgwennwr, hwylusydd a pherfformiwr o Eryri. Mae hi’n gweithio’n llawrydd ar sawl prosiect amlgyfrwng, gan gynnwys hwyluso gweithdai cymunedol, perfformio barddoniaeth lafar ac ysgrifennu a pherfformio ar gyfer y sioe theatr ddawns LHDTC+ ‘Q-fforia’. Mae hi ar garfan Cynrychioli Cymru 2026/2027 efo llenyddiaeth Cymru.
Mae ei gwaith yn ymddangos mewn sawl blodeugerdd a bydd hi’n cyhoeddi ei chasgliad cyntaf o gerddi yn fuan gyda Cyhoeddiadau’r Stamp.
Enillodd y gystadleuaeth farddoniaeth lafar yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2025. Mae hi’n rhannu ei gwaith ar Instagram o dan yr enw @gwaithpapur.