Mae VJ Appleton yn fardd, yn awdur, yn artist amlddisgyblaethol ac yn entrepreneur cymdeithasol o Abertawe. Mae eu hymarfer creadigol yn cynnwys barddoniaeth, gair llafar, rhyddiaith, sgriptio, cyfansoddi caneuon ac adrodd straeon arbrofol drwy gyfrwng amlgyfrwng. Yn ehangach, mae eu gwaith hefyd yn cwmpasu’r celfyddydau gweledol ac ymdrochol, ffotograffiaeth a ffilm.
Mae VJ wedi bod yn ysgrifennu barddoniaeth ers degawdau, gan archwilio hunaniaeth a’r ymdeimlad o berthyn, niwrowahaniaeth, anabledd, perthnasoedd, galar, natur a’r ffordd mae pobl yn canfod ac yn profi’r byd. Mae eu gwaith yn plethu myfyrdodau personol ag ymholi athronyddol, delweddaeth synhwyraidd, sylwebaeth gymdeithasol ac, ar adegau, hiwmor.
Mae gan VJ ddiddordeb arbennig mewn herio’r ffiniau traddodiadol rhwng llenyddiaeth a’r celfyddydau, gan gyfuno barddoniaeth â delweddau symudol, ffotograffiaeth, sain a phrofiadau rhyngweithiol. Mae eu gwaith yn cynnwys prosiectau arbrofol sy’n cyfuno ffilm a barddoniaeth, ysgrifennu sgriptiau o safbwyntiau niwrowahanol, a datblygu llyfr barddoniaeth rhyngweithiol.
Ochr yn ochr â’u gwaith ysgrifennu eu hunain, mae VJ hefyd yn cynnal gweithdai barddoniaeth a gweithdai creadigol hygyrch a chyfranogol, gan annog pobl i arbrofi â ffyrdd gweledol, llafar, digidol a chydweithredol o fynegi eu hunain. Mae rhywfaint o’r gwaith hwn yn cael ei wneud drwy eu menter gymdeithasol, Divergent Emergent CIC, sy’n cefnogi pobl niwrowahanol i gael mynediad at y diwydiannau creadigol, boed er mwyn mwynhad personol neu i ddatblygu eu gyrfaoedd. Mae VJ hefyd yn cynnal gweithgareddau mewn gwyliau a digwyddiadau sy’n agored i’r cyhoedd.
Ar hyn o bryd, mae VJ yn datblygu casgliad o farddoniaeth sy’n dwyn ynghyd waith a ysgrifennwyd dros sawl degawd. Bydd y casgliad ar gael ar ffurf ddigidol, gyda’r nod o fod yn hygyrch i bob cynulleidfa.