Dewislen
English
Cysylltwch

Meirion MacIntyre Huws

Lleoliad

Gogledd-orllewin

Iaith

Cymraeg 

Ffurf

BarddoniaethPerfformio BarddoniaethPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Derbynnydd Ysgoloriaeth Awdur Cyn Fardd Plant Cymru 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Un o Gaernarfon yw Meirion MacIntyre Huws (Mei Mac) ond mae bellach yn byw yng Nghlynnogfawr. Astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, lle graddiodd mewn Peirianneg Sifil ond mae’n gweithio ar ei liwt ei hun fel bardd a dylunydd ers 1996. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 1993 a bu’n Fardd Plant Cymru yn 2001. Mae’n llais cyfarwydd ar Radio Cymru ac S4C yn trafod barddoniaeth, geiriau, iaith a chynghanedd. Bu’n teithio hyd a lled Cymru, a thramor, yn darllen ei waith ac yn trafod barddoniaeth Gymraeg. Cyhoeddwyd tri chasgliad o’i waith, Y Llong Wen (Gwasg Carreg Gwalch) yn 1996, Rhedeg Ras Dan Awyr ‘Las (Hughes 2001) a Melyn (Gwasg Carreg Gwalch, 2004).  Mae ei waith wedi ei gynnwys mewn nifer o flodeugerddi a chyfrolau dros y blynyddoedd a’i gerddi wedi eu cyfieithu i sawl iaith arall. Mae Mei hefyd yn gartwnydd ac yn ddylunydd.