Dewislen
English
Cysylltwch

Simon Brooks

Lleoliad

Gogledd-orllewin

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

Ffeithiol 

Tagiau

Derbynnydd Ysgoloriaeth Awdur 

Bywgraffiad Cymraeg

Academydd a hanesydd y diwylliant Cymraeg yw Dr. Simon Brooks. Mae’n awdur a golygydd nifer o gyfrolau gan gynnwys Pam na fu Cymru? (a gyfieithwyd fel Why Wales never was?), llyfr am ddatblygiad cenedlaetholdeb, Adra: byw yn y gorllewin Cymraeg, golwg bersonol ar fywyd mewn tref Gymraeg yn y gogledd-orllewin, ac yn gyd-olygydd Pa beth yr aethoch allan i’w achub? am yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg. Ei gyfrol Hanes Cymry: Lleiafrifoedd ethnig yn y gwareiddiad Cymraeg, a gyhoeddir yn 2021 gan Wasg Prifysgol Cymru, fydd yr hanes cyntaf i’w gyhoeddi am leiafrifoedd ethnig yn y Gymru Gymraeg. Mae’n gweithio ar lyfr am fywyd Cymraeg Lloegr ar hyn o bryd. O deulu Cymraeg yn Llundain yn wreiddiol, mae’n byw erbyn hyn ger Porthmadog.