Dewislen
English
Cysylltwch

Bywgraffiad Cymraeg

Alex Wharton yw Children’s Laureate Wales 2023-2025. Mae’n awdur a pherfformiwr barddoniaeth arobryn. Cyrhaeddodd ei lyfr cyntaf o farddoniaeth i blant Daydreams and Jellybeans restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022, The North Somerset Teacher’s Book Award a chafodd ei enwi’n un o argymhellion darllen Diwrnod Barddoniaeth. Mae ei waith wedi’i gyhoeddi’n eang yn y sector, ac mae wedi cydweithio â Llenyddiaeth Cymru, Cadw, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru, British Council, Llyfrgelloedd Cymru a llawer o ysgolion.

Amlinelliad Gweithdy Cymru Ni

Cyfnod Allweddol: 3 a 4

Iaith y gweithdai: Saesneg

I drefnu ymweliad, cysylltwch ag Authors Aloud UK info@AuthorsAlouduk.co.uk
annieeverall@authorsalouduk.co.uk

Mae gweithdai Alex yn canolbwyntio ar alluogi dysgwyr i gael hwyl gyda ffurfiau barddonol. Caiff y sesiynau eu teilwra er mwyn gweddu i anghenion yr ysgol a’r grŵp penodol o ddysgwyr.