Dewislen
English
Cysylltwch

Carys Haf Glyn

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

Plant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Derbynnydd Ysgoloriaeth Awdur 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Yn wreiddiol o Gwm Rhymni, erbyn hyn mae Carys Glyn yw gyda’i theulu yn Y Fenni wrth droed mynydd Y Blorens. Mae hi’n athrawes ysgol gynradd sydd yn angerddol am feithrin cariad plant at lyfrau. Yn 2017 enillodd hi Ysgoloriaeth Llenyddiaeth Cymru ar gyfer datblygu ei nofel Saesneg i blant  The Fabulous League of Silver spies: Operation What-a-Whiff. Yn 2019, enillodd le ar gwrs Ysgrifennu i Blant yn Nhŷ Newydd. Yma, daeth hi i adnabod yr arlunydd Ruth Jên a phlannwyd yr haden ar gyfer llyfr newydd i blant. Fe gyhoeddwyd Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll gan Y Lolfa yn Hydref 2020.  Bwriad y llyfr yw i fagu diddordeb plant yn y byd natur o’u hamgylch ac i’w galluogi i gael effaith positif ar y byd hwnnw. Ers hynny, mae hi wedi cael gwahoddiad i rannu ei gwaith yng Ngŵyl Ysgrifennu y Fenni yng nghyd a Gŵyl Llenyddiaeth Garth Olwg. Criw’r Coed a‘r Gwenyn Coll yw ei llyfr cyntaf.