Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Camera Sioned

Connor Allen

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

English 

Ffurf

BarddoniaethPerfformio BarddoniaethPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Cyn Children's Laureate Wales 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Connor Allen oedd Children’s Laureate Wales 2021-2023. Mae Connor yn fardd ac artist amlgyfrwng o Gasnewydd. Ers graddio o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant fel Actor yn 2013, mae Connor wedi gweithio gyda chwmnïau megis Taking Flight Theatre, Theatr y Sherman, Royal Exchange Manchester, Tin Shed Theatre, BBC Wales a National Theatre Wales. Mae’n aelod o National Youth Theatre of Great Britain ac ef hefyd oedd enillydd Triforces Cardiff MonologueSlam, gan gynrychioli Cymru yn y rownd derfynol yn Llundain. Caiff ei waith ei ysbrydoli gan elfennau o’i fywyd ei hun megis galar, cariad, gwrywdod, hunaniaeth ac ethnigrwydd.

Y mae wedi ysgrifennu ar gyfer BBC Wales, Theatr y Sherman, BBC Radio 4 a Protest Fudur, ac wedi derbyn nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer cynhyrchu ei ddrama gyntaf, Working Not Begging – drama un ddynes sydd yn trafod digartrefedd a galar. Yn fwy diweddar, cyrhaeddodd restr fer Dave & UKTV Writerslam 2021 Triforce, enillodd Wobr Rising Stars Cymru 2021 Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press a derbyniodd gyllid gan Jerwod Live Work Fund yn 2021. Ar hyn o bryd mae Connor yn gweithio ar ei sioe hunangofiannol un dyn, casgliad o farddoniaeth ac addasiad llwyfan.

Un o brif flaenoriaethau Connor fel Children’s Laureate Wales oedd grymuso plant a phobl ifanc i fynegi eu straeon unigryw eu hunain drwy farddoniaeth.