Dewislen
English
Cysylltwch

Sara Louise Wheeler

Lleoliad

Gogledd-ddwyrain

Iaith

CymraegEnglish , British Sign Language

Ffurf

BarddoniaethFfuglenFfeithiolNofelau GraffegPerfformio BarddoniaethAdrodd StoriPlant a Phobl IfancPerfformio 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Daw Sara Louise Wheeler yn wreiddiol o Wrecsam yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac mae hi bellach yn byw ar benrhyn Cilgwri yng ngogledd-orllewin Lloegr (2.7 milltir o’r ffin); Mae Sara yn weithiol o fewn y sîn llenyddol a chreadigol yn yr ardal hwn ar ddwy ochr y ffin, ac mae’n mwynhau archwilio cymeriad a diwylliant unigryw’r gororau gan ystyried sut mae hyn wedi siapio ei harfer creadigol.

Mae gan Sara Syndrom Waardenburg Math 1, dyslecsia, ac amrywiaeth o faterion iechyd sy’n deillio o gonfylsiynau; fodd bynnag, mae Sara yn tynnu ysbrydoliaeth o’r heriau hyn ac ar hyn o bryd mae’n synfyfyrio ar ei phrofiadau trwy amrywiaeth o gyfryngau creadigol, gan gynnwys barddoniaeth, ysgrifau, a’r celfyddydau gweledol.

Mae Sara yn ysgrifennu’r golofn ‘O’r gororau’ yng nghylchgrawn Barddas. Ar hyn o bryd mae hi hefyd yn paratoi ‘Y Dywysoges Arian’ ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru; opera / bale bildungsroman tair-ieithog yw hon am ei phrofiadau o WST1.

Mae gwaith Sara wedi cael ei arddangos mewn amrywiaeth o fforymau gan gynnwys: Fahmidan Journal, Dark Poets Club, Gŵyl y ferch, a 3am Magazine; darlledwyd ei monolog dystopaidd ‘Y Siambr Bodhyfryd’ yn ddiweddar gan BBC Radio Cymru fel rhan o gyfres ffuglen ar newid hinsawdd. Ar hyn o bryd mae Sara yn archwilio croestoriadau a chroesbeilliad posib rhwng y gynghanedd a barddoniaeth iaith arwyddion, a hefyd mathau eraill o gelf draws-ddisgyblaethol.

Yn 2020 creodd Sara ‘Gwasg y Gororau’ a chyhoeddodd gwaith creadigol ei hun yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho fel PDFs, gan gynnwys: Y ras i gynganeddu / The race to cynganeddu (pamffled barddoniaeth ddwyieithog); ‘Rwdlan a Bwhwman’ (ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth Gymraeg); a ‘Llyfr lloffion Bardd y Mis / Poet of the Month Scrap Book (casgliad dwyieithog o’i chyfnod fel ‘Bardd y mis’ ar gyfer Barddas / BBC Radio Cymru, Ionawr 2021). Ar hyn o bryd mae Sara wrthi’n paratoi dau gasgliad barddoniaeth ddwyieithog newydd, ‘Confylsiwn / Convulsion’ a ‘Cwilt Clytwaith Goareig / A Goareig Patchwork Quilt’; cyhoeddir y rhain fel llyfrau Kindle a byddant ar gael i’w prynu yn 2022.

Mae Sara’n awyddus i glywed gan eraill sydd â diddordeb mewn datblygu’r wasg ymhellach ac mewn sefydlu cylchgrawn dwyieithog o’r enw ‘Ffiniau’, a fyddai’n cyhoeddi deunydd o ardal y gororau, a hefyd am brofiadau ymylol, gan gynnwys cyflyrau genetig prin a salwch. Y nod fyddai herio syniadau confensiynol trwy roi platfform i waith a allai ei chael yn anodd dod o hyd i gartref yn rhywle arall.