Ers graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol mae Rebecca wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, gweinydd dyneiddiol a chyfieithydd.
Y nofel gyntaf iddi ei chyhoeddi oedd Mudferwi yn 2019, a chafodd nofel Saesneg o’i gwaith, Eat. Sleep. Rage. Repeat, ei chyhoeddi gan Gomer yn 2020.
Enillodd ei thrydedd nofel, #Helynt, y Wobr Tir na n-Og 2021 a chategori Plant a Phobl Ifanc Llyfr y Flwyddyn 2021, ac mae bellach yn nofel osod ar faes llafur TGAU Llenyddiaeth Cymraeg CBAC. Bellach, mae Rebecca yn awdur deuddeg nofel gyfoes i oedolion a phobl ifanc. Mae hi wedi ennill nifer o wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol am ei ffuglen, gan gynnwys Ysgoloriaeth Emyr Feddyg 2017. Yn ogystal ag ysgrifennu nofelau, mae Rebecca yn cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol, yn adolygu llyfrau ac yn cynnal seremoniau di-grefydd. Mae hi’n byw yn Llanelwy, gyda’i gŵr a phlant. Hi oedd arweinydd Sgwad Sgwennu’r Ifanc Conwy 2024-25, ar ran Llenyddiaeth Cymru.