Dewislen
English
Cysylltwch

Menna Elfyn

Lleoliad

De-orllewin

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

Barddoniaeth 

Tagiau

Tiwtor cwrs Tŷ Newydd Cyn Fardd Plant Cymru 

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Menna Elfyn yn fardd a dramodydd sydd wedi cyhoeddi pedair ar ddeg cyfrol o farddoniaeth, a’r un ddiweddaraf yw’r gyfrol ddwyieithog Bondo (Bloodaxe Books, 2017). Cyhoeddodd Optimist Absoliwt: Cofiant Eluned Phillips (Gomer) yn 2016, a Murmur (Bloodaxe Books) yn 2012. Eisoes, mae ei gwaith wedi ei gyfieithu i dros ugain o ieithoedd ac mae dwy gyfrol arall ar fin ymddangos mewn Catalaneg ac Arabeg. Yn 2018, cyhoeddwyd ei Llên Gofiant gan Barddas. Mae’n Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant.