Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Hawlfraint: Dyfed Edwards. Llun gan Tim Stubbings.

Dyfed Edwards

Lleoliad

Y tu allan i Gymru

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

FfuglenFfeithiol 

Tagiau

Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 

Bywgraffiad Cymraeg

Magwyd Dyfed Edwards yn Rhosmeirch ger Llangefni, a bu’n newyddiadurwr am flynyddoedd, yn gweithio ar bapurau newydd ar draws Gwledydd Prydain, gan gynnwys papurau dyddiol yn Llundain. Mae’n awdur sawl cyfrol, ffuglen a ffeithiol, gan gynnwys “Dynion Dieflig” (Y Lolfa, 2008), “Iddew (Gwasg y Bwthyn, 2016), a “Bedydd Tân” (Gwasg y Bwthyn, 2021). Enillodd Y Fedal Ddrama ddwywaith, yn 2008 a 2009, a perfformiwyd ei sgriptiau ar lwyfannau proffesiynol ac ar BBC Radio Cymru. Mae hefyd wedi ei gyhoeddi yn y Saesneg dan y ffugenw Thomas Emson, gyda sawl o’r nofelau rheini wedi eu cyfieithu. Mae’n gweithio fel awdur a golygydd llawn amser, ac mae hefyd yn dysgu ysgrifennu creadigol bob hyn a hyn tra’n byw bellach yn Swydd Caint gyda’i wraig, y rhith-awdur a’r golygydd, Marnie Summerfield Smith.