Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Diane Woodrow

Diane Woodrow

Lleoliad

Gogledd-orllewin

Iaith

English 

Ffurf

BarddoniaethFfuglenFfeithiolAdrodd StoriPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Diane Woodrow ydw i. Dw i’n byw yn Abergele, Conwy. Dw i wrth fy modd yn annog eraill i fwynhau ysgrifennu creadigol ac i archwilio’r byd a nhw eu hunain trwy ysgrifennu, a dyna pam dw i’n cynnal grwpiau ysgrifennu ar gyfer oedolion a phobl ifanc ar themâu gwahanol; sut i ysgrifennu stori/nofel, defnyddio ysgrifennu er lles, sut i fwynhau ysgrifennu, ysgrifennu ym myd natur. Dw i wedi llunio rhywfaint o waith ar gyfer cyrsiau lles ac mae un ohonyn nhw’n seiliedig ar y llyfr plant We’re Going On A Bear Hunt.

Dw i wedi cynnal gweithdai i Gastell Gwrych yn yr ysgolion cynradd lleol ac yn ysgol uwchradd Emrys ap Iwan. Gydag Ysgol Emrys ap Iwan, fe wnaethon ni berfformio drama am y Rhyfel Byd Cyntaf ar 4 Gorffennaf 2018, a hynny ar dir y castell lle bu’r bobl ifanc yn perfformio eu gwaith eu hunain a gwaith pobl eraill. Cynhaliais grŵp Awduron Ifanc Abergele drwy gydol haf y llynedd hefyd. Dw i wedi bod yn cynnal grwpiau ysgrifennu i oedolion sydd wedi ymdrin â lles yn ogystal â ffurf y cofiant ac ysgrifennu creadigol cyffredinol o 2017. Mae pobl 16-82 oed wedi mynychu’r rhain. Dw i wedi cynnal ychydig o sesiynau ysgrifennu er lles gyda Lles Conwy yn y cnawd ac ar-lein cyn ac ar ôl y Cyfnod Clo.

Roedd fy ngradd, a dderbyniais yn 2014, mewn Hanes, Treftadaeth ac Ysgrifennu Creadigol. Mae gen i hefyd PGDip mewn Defnyddio Ysgrifennu at Ddibenion Therapiwtig a TAR mewn Astudiaethau Celtaidd. Mae hyn yn golygu fy mod i’n defnyddio llawer o hanes, diwylliant a lles yn fy ngwaith.

Mae gen i lyfr wedi’i gyhoeddi gyda ffrind sy’n ddarlunydd o’r enw The Little Yellow Boat, sydd wedi cael derbyniad gwych, ond dw i wedi cael trafferth i’w farchnata oherwydd fe’i cyhoeddwyd yn 2020. Dw i hefyd wedi hunangyhoeddi llyfr o gerddi a ysbrydolwyd gan ffotograffau o’m teithiau cerdded gyda fy nghŵn o’r enw Inspirations From Wallking In North Wales. Roedd hwn yn llyfr hwyl i’w greu oherwydd dysgais am fformatio a phethau o hynny. Mae gen i hefyd ddarn a oedd yn rhan o brosiect BA Celf dynes ifanc, sy’n stori tylwyth teg am bengwin. Cerfiwyd y pengwin o lo.

Dw i wedi cyflwyno darnau ar gyfer cystadleuaeth farddoniaeth flynyddol yr Amgueddfa Wyddoniaeth, ac enillais gyda fy ymgais ‘The Bell-Shaped Bronze Mortar Jar’ yn 2021. Fe wnes i ddarn tebyg gydag awdur yn llyfrgell Llandudno cyn y Cyfnod Clo, ond ni allaf ddod o hyd iddo.