Dewislen
English
Cysylltwch

Nia Morais

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

Plant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Bardd Plant Cymru Derbynnydd Cynrychioli Cymru Cymru Ni | Our Wales 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Nia Morais yw Bardd Plant Cymru 2023-2025. Mae hi’n awdur a dramodydd o Gaerdydd sy’n sgwennu am hunaniaeth, hud a lledrith, ac arswyd. Awdur mewn preswyl Theatr y Sherman 2022 yw Nia. Roedd Nia hefyd yn rhan o raglen Cynrychioli Cymru yn 2021 gyda Llenyddiaeth Cymru. Mae’n sgwennu i blant ac oedolion.

 

Amlinelliad Gweithdy Cymru Ni

  • Cyfnod Allweddol: 3
  • Iaith y gweithdai: Cymraeg, Saesneg neu dwyieithog
  • Lleoliadau posib: Caerdydd a’r cyffiniau

Mae gweithdai Nia yn seiliedig ar y linell: “pan fi’n teimlo fel fi…” / “when I’m most myself…”. Yn y gweithdy, bydd Nia yn arwain dysgwyr trwy ymarferion ysgrifennu am eu treftadaeth, eu hoffterau a’u cas bethau, beth maent yn teimlo’n angerddol amdano, cyn gorffen ar ymarfer ysgrifennu cerddi am y gweithredoedd sy’n gwneud iddynt deimlo’n fwyaf cartrefol ynddynt eu hunain. Bydd y gweithdy hwn yn canolbwyntio ar hunanfynegiant a grymuso, a bydd yn rhoi ymdeimlad o falchder i fyfyrwyr yn eu hunaniaeth.