Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Tyrone Lewis @processproductions

Duke Al

Lleoliad

De-orllewin

Iaith

English 

Ffurf

BarddoniaethFfuglenFfeithiolPerfformio BarddoniaethAdrodd StoriPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Cymru Ni | Our Wales Profiad o Gynnal Gweithgaredd Llenyddol i Blant 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Duke Al yn fardd-berfformiwr ac yn hwylusydd gweithdai llenyddol. Mae’n defnyddio ysgrifennu cerddi fel therapi. O oedran ifanc, byddai Duke Al yn sgriblo rapiau a cherddi mewn llyfrau nodiadau. Dyma sut y byddai’n mynegi eu hunan; dihangfa i herio ei OCD. Dechreuodd angerdd at eiriau, llif ac odl flaguro. Ar ôl cael diagnosis o ddiabetes math 1 yn 23 oed, roedd y feiro yno i’w helpu i ddeall a mynegi sut roedd yn teimlo. Nawr mae’n anelu at wneud newid dylanwadol gan ddefnyddio un odl ar y tro. Gallwch ddod o hyd i waith cyhoeddedig diweddar Duke Al ar BT Sports, GIG, cyfnodolyn Artes Mundi, BBC Scrum V.

 

Amlinelliad Gweithdy Cymru Ni

  • Cyfnod Allweddol: 3 a 4
  • Iaith y gweithdai: Saesneg
  • Lleoliadau posib: Dros Gymru gyfan

Iechyd Meddwl: Bydd Duke yn creu amgylchedd grymusol diogel, lle gall pobl ifanc siarad am unrhyw faterion iechyd meddwl a allai fod ganddynt trwy farddoniaeth. Fel bardd-berfformiwr, mae Duke yn hoffi rhannu ei brofiadau gyda heriau iechyd meddwl trwy berfformiad. Mae Duke wedi cyflwyno gweithdai llwyddiannus ar iechyd meddwl mewn ysgolion a gyda’r GIG.

Hil a Hunaniaeth: Mae Duke wedi cyflwyno gweithdai ar hunaniaeth a hil mewn ysgolion ledled Cymru. Mae wedi ysbrydoli plant i ysgrifennu am y materion hyn gydag aeddfedrwydd a hyder!