Dewislen
English
Cysylltwch

Izzy Rabey

Lleoliad

Gogledd-ddwyrain

Ffurf

Plant a Phobl IfancPerfformio 

Tagiau

Cymru Ni | Our Wales 

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Izzy (hi/nhw) yn siaradwr Cymraeg Queer, ac yn gyfarwyddwr, yn ymarferydd theatr gymhwysol ac yn wneuthurwr cerddoriaeth o Fachynlleth yng nghanolbarth Cymru. Fel cyfarwyddwr mae hi wedi gweithio gyda’r Royal Court, National Theatre Wales, English Touring Theatre Company, Theatr Clwyd, Theatr y Sherman, Chapter Arts Centre a The Other Room Theatre. Mae Izzy wedi gweithio gyda phobl ifanc yn y system ofal, unedau awtistiaeth, unedau cyfeirio disgyblion, ysgolion ar gyfer pobl ifanc niwroamrywiol, ac unedau seiciatrig ar gyfer pobl ifanc. Ar hyn o bryd mae hi’n cyd-hwyluso Young Queens, grŵp barddoniaeth a drama cymunedol ar gyfer menywod Somalïaidd yng Nghaerdydd.

Amlinelliad Gweithdy Cymru Ni

  • Cyfnod Allweddol: 3 a 4
  • Iaith y gweithdai: Cymraeg, Saesneg a dwyieithog

 

  1. Croestoriadau o fewn Hunaniaeth Gymreig: trafodaethau ar beth yw hunaniaeth Gymreig, a beth y gallai fod, a defnyddio Drama a Sgiliau Ymchwil fel ffordd o ddatblygu perfformiadau ar hunaniaeth Gymreig yn ogystal â chyflwyno disgyblion i artistiaid Cymreig o’r Mwyafrif Byd-eang nad ydynt efallai wedi clywed amdanynt, trwy dasgau ymchwil annibynnol a chyflwyniadau gan y disgyblion i’w gilydd.
  2. Cerfio Eich Gyrfa Greadigol Eich Hun: Gweithdy ar reoli arian, hunan-hyrwyddo a hunan-hyder, er mwyn arwain dysgwyr trwy’r broses o greu gyrfa yn y celfyddydau sy’n cefnogi eich uchelgeisiau creadigol eich hunan.