Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Matt Horwood

Bywgraffiad Cymraeg

Yn wreiddiol o Bermuda, mae Krystal S. Lowe yn fardd, yn ysgrifennu straeon byrion a sgriptiau. Mae ei gwaith yn archwilio themâu o hunaniaeth groestoriadol, lles ac iechyd meddwl, a grymuso. Ymhlith ei darnau diweddar a gomisiynwyd mae: ‘Whimsy’ ar gyfer Articulture Wales; ‘Rewild’ i’r Green Man Trust; ‘Daughters of the Sea’ i Ffilm Cymru, BBC Arts, BBC Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru; ‘Somehow’ i Music Theatre Wales; a ‘Complexity of Skin’ a gomisiynwyd gan y Space ar gyfer Culture in Quarantine y BBC. Ewch i https://krystalslowe.com/ am ragor o wybodaeth.

 

Amlinelliad Gweithdy Cymru Ni

  • Cyfnod Allweddol: 2, 3 a 4
  • Iaith y gweithdai: Saesneg
  • Lleoliadau posib: De Cymru

 

Archwilio a Rhannu Ein Llais: Ysgrifennu Hunangofiannol ar gyfer Pobl Ifanc

Bydd y gweithdy creadigol hwn yn galluogi pobl ifanc i ysgrifennu a pherfformio eu straeon eu hunain.

Ar ôl rhai sesiynau torri’r garw a gemau i gyflwyno ein hunain, bydd y bobl ifanc yn rhannu’r momentau mwyaf cofiadwy yn eu bywydau. Mewn grwpiau, gallant rannu eu straeon gan ddefnyddio lluniau, propiau, neu eiriau yn unig. Yn dilyn y rhannu llafar hwn, bydd y bobl ifanc yn cael amser i ysgrifennu eu straeon i wneud gweithiau 100 gair o ffuglen ffeithiol. Trwy gydol eu hamser ysgrifennu byddant yn derbyn cyfres o anogaethau syml i’w hannog i dynnu allan pob manylyn o’u stori.

Unwaith y bydd eu gweithiau wedi’u hysgrifennu byddant yn cael eu rhannu’n grwpiau bach i archwilio sut y gallant berfformio eu gwaith dros eraill – archwilio offer ar gyfer pwysleisio agweddau o’r stori gyda’u cyrff a’u lleisiau a sut i sicrhau dal sylw’r gynulleidfa trwy gydol perfformiad. Ar ddiwedd y sesiwn, bydd y myfyrwyr hynny sy’n dymuno, yn perfformio eu gweithiau hunangofiannol cyn y dosbarth.