Dewislen
English
Cysylltwch

Kerry Curson

Lleoliad

De-orllewin

Iaith

English 

Ffurf

BarddoniaethFfuglenFfeithiolPerfformio BarddoniaethAdrodd StoriPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Kerry wedi bod yn dysgu ioga wrth iddi ddatblygu ei chrefft ysgrifennu creadigol dros y ddeng mlynedd ddiwethaf. Hi yw awdur ‘The Kali Chandra School of Yoga Manual’ – mae hefyd wedi cyhoeddi gwaith ffeithiol yng nghylchgrawn ‘Om Yoga’ a blogiau a chylchgronau ar-lein ers 2020.

Fe wnaeth Kerry gwblhau ei gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol gyda Phrifysgol Abertawe yn 2023 ac mae wedi ysgrifennu dwy nofel i’w cyhoeddi yn ddiweddarach yn 2023; un ar gyfer oedolion ifanc sy’n antur â chymeriadau sydd ar fin dod yn oedolion, ‘Bad Luck and Serendipity’, a’r llall yn nofel i blant o’r enw ‘Anwen and the Island’.

Yn diwtor ac hyfforddwr cymhwysiedig, mae Kerry’n cynnig gweithdai ysgrifennu creadigol mewn ysgolion a chanolfannau cymunedol ar draws Sir Benfro.