Dewislen
English
Cysylltwch

Luned Aaron

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

Cymraeg 

Ffurf

FfuglenPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Derbynnydd Ysgoloriaeth Awdur Tiwtor cwrs Tŷ Newydd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Luned yn ysgrifennu llyfrau i blant ac yn darlunio llyfrau i blant ac oedolion. Enillodd Wobr Tir na n‐Og 2017 am ei chyfrol gyntaf i
blant, ABC Byd Natur, ac ers hynny mae hi wedi cyhoeddi sawl llyfr stori‐a‐llun poblogaidd i blant ifanc. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i blant 7–9 oed, sef Mira a’r Dant, yn 2022. Ei llyfr stori‐a‐llun hi a’r darlunydd Huw Aaron, Dwi eisiau bod yn Ddeinosor, oedd enillydd Gwobr Tir na n‐Og 2023 (categori llyfr Cymraeg oed cynradd).