Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Chris Armstrong

Chris Armstrong

Lleoliad

Canolbarth Cymru

Iaith

English 

Ffurf

BarddoniaethFfuglen 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Chris Armstrong wedi dilyn tair gyrfa, yn gyntaf fel swyddog desg yn y llynges fasnachol, ac yna am gyfnod byr yn was ffarm ar y fferm ym mynyddoedd canolbarth Cymru lle mae’n dal i fyw, cyn iddo ddilyn cwrs gradd ac ailsefydlu ei hun fel gwyddonydd gwybodaeth gan weithio i’r brifysgol. Yna, am 30 mlynedd bu’n rhedeg ei Gwmni ymchwil ac ymgynghori ei hun. Wedi ymddeol, mae’n amlygu ei hun fel bardd ac awdur. Disgrifiwyd ei farddoniaeth gynnar – yn ymwneud â bywyd, tirwedd, cariad a cholled – fel mynych gyfathrebu profiadau amrwd gyda chyfran o sicrwydd, cynildeb a phŵer. Ac yntau wedi astudio ‘Llenyddiaeth/Ysgrifennu Eingl-gymreig’ / ‘Anglo-Welsh Literature/Writing’ fel rhan o’i radd yn Aberystwyth, mae’n well ganddo’r term hwn i ddisgrifio ei waith yn hytrach na’r term Saesneg mwy modern ac ychydig mwy amwys ‘Welsh writing in English’. Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi Mostly Welsh yn 2019 (Y Lolfa). Mae ei gerddi mwy diweddar – amryw ohonynt yn ysgrfiennu
dylanwadau ychwanegol o’r tu allan i Gymru – yn anochel yn coleddu cynfas ehangach na’r rheiny yn Mostly Welsh, ac wedi dechrau ymhél â themâu megis iaith ac ystyr, amser, hanes a thynged. Mae ieithwedd y cerddi wedi’i disgrifio fel un mwy miniog, mwy ‘siarp’. Delweddau sy’n ymddangos ynddynt yn aml yw’r môr a’i ffurfiodd ef, a’r gorwel; yn aml mae’n cyfeirio at ‘Y Gorwel’ (Dewi Emrys).
Er iddo ar y cychwyn ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar farddoniaeth, mae ei waith ysgrifenedig wedi ehangu i gynnwys storïau byrion, a chyhoeddwyd ei gyfrol gyflawn gyntaf o ffuglen hunangofiannol, The Dark Triology, diwedd Medi 2022 cyn i’w gyfrol o gasgliad byr o gerddi, Book of the Spirit, ymddangos yn Nhachwedd 2022. Cafodd ei gasgliad o storïau byrion, When I am Not Writing Poetry, a chsagliad arall o gerddi, Lost Time, eu cyhoeddi yn gynnar yn 2023.
Mae ganddo nofel newydd yn aros i gael ei chyhoeddi. Mae Chris hefyd wedi cyhoeddi mewn cylchgronau gan gynnwys Storgy, Agenda a London Grip New Poetry.
Mae’n rhoi darlleniadau a sgyrsiau ar ysgrifennu, ac am ei waith.