Mae Hazell Ward yn byw yn ardal Wrecsam, dinas dosbarth gweithiol yng Nghymru lle, ar unrhyw ddydd Sadwrn yn ystod y tymor pêl-droed, mi welwch chi filoedd o gefnogwyr pêl-droed angerddol ac ambell seren Hollywood. Am flynyddoedd lawer, bu’n athrawes addysg oedolion, cyn mynd ymlaen i weithio i sefydliad elusennol mewn ardal o amddifadedd economaidd. Yn y swydd hon, bu’n gweithio gydag oedolion ifanc i'w hannog i anelu at addysg bellach neu gyflogaeth, gan wneud ei rhan i'w helpu i gyflawni'r dyheadau hynny.Gan gymryd ysbrydoliaeth gan ei mentoreion ifanc, cwblhaodd Hazell radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion. Mi wnaeth hi fwynhau’r profiad gymaint fel ei bod hi bellach yn anelu am radd PhD.Mae'n canmol ei mam am feithrin ynddi gariad at ddarllen ac awydd brwd i fod yn awdur. Roedd gan y tŷ y cafodd ei magu ynddo lawer o lyfrau, llawer o gariad, a sinc llawn llestri budr! Pa fagwraeth well i awdur na chael mam a oedd byth a beunydd â’i thrwyn mewn llyfr?Mae gan Hazell bedwar o blant sydd bellach yn oedolion, ac un wyres fach hyfryd, sy'n cymryd y rhan fwyaf o'i hamser rhydd. Mae hi hefyd yn canu’r piano (yn wael). Cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Cystadleuaeth Stori Fer Margery Allingham yn 2021, ac enillodd ddagr Stori Fer Cymdeithas yr Awduron Trosedd yn 2023 am ei stori, ‘Cast a Long Shadow’, a gyhoeddwyd gan Wasg Honno.The Game is Murder yw ei nofel gyntaf.