Bardd a llenor sy’n byw a gweithio yn Nyffryn Ogwen yw Meleri Davies. Mae wedi cyhoeddi ei gwaith mewn nifer o gyfnodolion a cyhoeddwyd ei chyfrol cyntaf o farddoniaeth ‘Rhuo ei distawrwydd hi’ gyda Cyhoeddiadau’r Stamp ym mis Tachwedd 2024. Enillodd y gyfrol honno Wobr Llyfr y Flwyddyn 2025 yn y categori barddoniaeth a mae’r gyfrol wedi ei hail-argraffu bedair gwaith mewn cyfnod o 9 mis. Mae Meleri yn weithredwr a datblygwr cymunedol fu’n arwain menter gymdeithasol Partneriaeth Ogwen am dros ddegawd yn Nyffryn Ogwen. Yn ystod ei chyfnod yno, arweiniodd ar ddatblygu cynllun hydro cymunedol a phrosiectau adfywio eraill yn cynnwys datblygu siop lyfrau Gymraeg a gwyliau diwylliannol Cymraeg ym Methesda. Mae hi’n angerddol am gymunedau, cynaladwyedd a chreadigrwydd. Mae hi bellach yn ymgyngorydd datblygu cymunedol llawrydd ac yn ymarferydd creadigol, yn cynnwys gwaith rheoli a chynllunio prosiectau a hwyluso gweithdai ysgrifennu creadigol.