Cynrychioli Cymru: Cymhwysedd
Diolch yn fawr am eich diddordeb yn Cynrychioli Cymru, ein rhaglen datblygu awduron. Mae’n ddrwg gennym nad ydych yn gymwys i ymgeisio am y cyfle penodol hwn. Gallwch bori drwy ein gwefan i ddarllen am ragor o gyfleoedd ac i ddarllen gwybodaeth am ein prosiectau eraill.
Datganiad byr ynglŷn â chymhwysedd
Mae ein rhaglen Cynrychioli Cymru wedi ei lunio er mwyn cynnig cyfleoedd datblygu i bobl sydd wedi wynebu rhwystrau o fewn y sector llenyddiaeth a’r byd cyhoeddi. Bydd rhaglen 2022 yn rhoi cyfle penodol i awduron sydd o gefndiroedd incwm isel. Bydd llawer o’r awduron hyn hefyd yn wynebu heriau eraill yn ogystal, megis cenedligrwydd, anabledd, rhywedd, hunaniaith rhyweddol, oed, a chred neu ffydd. Rydym eisiau sicrhau bod ein rhaglen Cynrychioli Cymru yn cyrraedd yr awduron y bwriedir y cynllun ar eu cyfer.
Fodd bynnag, mae ddiffinio cefndir economaidd-gymdeithasol yn gymhleth. Er mwyn sicrhau bod hon yn broses ymgeisio deg sy’n blaenoriaethu’r rhai hynny fyddai’n elwa o’r rhaglen hon, rydym wedi meithrin dadansoddiad cefndir economaidd-gymdeithasol sydd yn gyffredin (yn cynnwys hunan-asesiad ac asesiad SEC) er mwyn ein cynorthwyo i fod mor wrthrychol â phosib wrth adnabod cefndir economaidd-gymdeithasol teuluoedd yr ymgeiswyr pan oedd yr ymgeiswyr hynny yn 14 oed. Rydym yn ymwybodol bod y cwestiynau a ofynnir yn fanwl ac yn bersonol. Mae’r wybodaeth a ddarperir yn gyfrinachol, ac fe’i defnyddir ar gyfer asesu cymhwysedd yn unig. Rydym hefyd yn gwahodd ymgeiswyr i esbonio yn eu geiriau eu hunain, pam eu bod yn credu eu bod yn gymwys i ymgeisio am y cyfle hwn, er mwyn sicrhau bod y broses ymgeisio mor gynhwysol â phosib.
Ar ddiwedd y ffurflen gais, rydym yn gwahodd adborth ar y broses ymgeisio; rydym yn awyddus i ddysgu oddi wrth brofiad awduron, fel y gallwn barhau i weithio mewn modd sensitif wrth gynnig cyfleoedd datblygu i awduron sydd wedi eu tan-gynrychioli.