Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad: Cyfle i Awduron Byddar a/neu Anabl a/neu Niwroamrywiol
Mae Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru, yn falch o wahodd awduron Byddar a/neu Anabl a/neu’n Niwroamrywiol sydd yn byw yng Nghymru i ymgeisio am le ar ein rhaglen Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad, sy’n cynnwys cwrs preswyl gyda tiwtorialau un-i-un ar-lein i ddilyn yn ystod gwanwyn-haf 2026.
Mae ffenestr ymgeisio Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad bellach wedi cau. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am garfan 2026 maes o law.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o weithio mewn partneriaeth â Celfyddydau Anabledd Cymru ar y cwrs hwn ac yn ddiolchgar am eu cefnogaeth. Diolchwn hefyd i The Fenton Arts Trust ac i’r Loteri Genedlaethol, trwy law Cyngor Celfyddydau Cymru, am eu cefnogaeth ariannol hael.