Dewislen
English
Cysylltwch

Cynnwys y Cwrs

2026

  Dydd Gwener 27 Mawrth 2026
  2.00 pm – 4.30 pm​ Pawb i gyrraedd Tŷ Newydd​​
  4.30 – 5.30 pm Sesiwn gyflwyno gyda Kaite
  6.30 pm​​ Pawb i ymgynnull yn yr Ystafell Fwyta am swper, i gyfarfod y prif awduron a derbyn araith groeso gan staff Llenyddiaeth Cymru
  8.00 pm – 9.30 pm​​ Sesiwn agoriadol​ – perfformiad gan Kaite a rhannu gwaith

 

Ar y diwrnod cyntaf, byddwn yn cyflwyno ein hunain ac yn dod i adnabod y grŵp o awduron. Bydd y sesiwn gyflwyniadol yn archwilio cynrychiolaeth pobl Fyddar, Anabl a Niwroamrywiol mewn llenyddiaeth.

Bydd Kaite yn rhannu enghreifftiau fideo o’i gwaith ei hun a sut mae’n ‘ateb yn ôl’ i gynrychioliadau problemus o anabledd yng nghanon theatrig a chyfryngau’r gorllewin. Byddwn yn trafod modelau o anabledd a’u heffaith ar sut mae ‘gwahaniaeth’ yn cael ei bortreadu.

 

 Dydd Sadwrn 28 Mawrth
 9.30 am – 11.00 am​ Gweithdy #1  – Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad
 11.00 am – 11.30 am​ Egwyl​
 11.30 am – 1.00 pm​ Gweithdy #2 – Barddoniaeth
 1.00 pm – 2.00 pm​ Egwyl Cinio
 2.00 pm – 3.30 pm​ Gweithdy #3 – Monologau
 3.30 pm – 5.00 pm Amser i ysgrifennu
 6.30 pm – 7.30 pm Swper
 8.00 pm – 9.30 pm​ Sesiwn gyda’r darllenydd gwadd

 

Bydd pob gweithdy yn cynnwys darllen darnau o waith cyflawn neu chwyldroadol a grëwyd gan awduron Anabl a Byddar a thrafod sut y gallwn weithredu rhai o’r technegau a’r syniadau da y byddwn wedi’u darllen a’u trafod yn ein gwaith ein hunain.

 

Gweithdy 1

Yn y sesiwn gychwynnol hon, byddwn yn gosod y sylfaen ar gyfer ailddyfeisio ein prif gymeriadau, gan osod yr her i ni ein hunain i newid stereoteipiau, ystyried naratifau newydd, a defnyddio iaith wedi’i hadfywio yn ein gwaith. Byddwn yn ystyried ffyrdd o danseilio neu herio, gan ddefnyddio cymysgedd o ffurfiau i archwilio cynnwys a phersbectif.

 

Gweithdy 2

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar farddoniaeth. Hyd yn oed os nad barddoniaeth yw eich prif genre, bydd y gweithdy yn ddefnyddiol ar gyfer ysgrifennu effeithlon a manwl gywir. Drwy’r cerddi enghreifftiol byddwn yn dadansoddi delweddaeth a sut y gall barddoniaeth fod yn arf pwerus i wneud i’ch darllenwyr empatheiddio a deall.

 

Gweithdy 3

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar fonologau. Hyd yn oed os nad yw’ch gwaith yn fonolog nac yn sgript, bydd y gweithdy hwn yn eich helpu i ddatblygu eich crefft ysgrifennu o’ch safbwynt eich hun – neu o safbwynt person cyntaf arall.

Gyda’r nos

Bydd darllenydd gwadd o garfan llynedd yn rhannu eu myfyrdodau, eu datblygiadau ac yn darllen rhywfaint o’u gwaith a ddatblygwyd o ganlyniad i’r cwrs yn 2024/5.

 Dydd Sul 29 Mawrth
 9.30 am – 11.00 am​ Gweithdy #4 – Ffuglen/Ffeithiol Greadigol​
 11.00 am – 11.30 am​ Egwyl​
 11.30 am – 1.00 pm​ Gweithdy #5 – Rhannu ac adlewyrchu
 1.00 pm – 2.00 pm​ Egwyl Cinio​
 2.00 pm​ Cwrs yn gorffen a phawb yn gadael

 

Gweithdy 4

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar ffuglen neu ffeithiol greadigol. Byddwn yn cyffwrdd â llinellau stori, cymeriadau a deialog. Cewch amser hefyd i ddatblygu eich ysgrifennu drwy ymarferion.

 

Gweithdy 5

Amser i rannu ac adlewyrchu ar yr hyn rydych chi wedi ddysgu.

 

Sesiwn 6

Yn ystod mis Mehefin, yn dilyn seibiant i chi ddatblygu eich gwaith, bydd pob awdur yn derbyn tiwtorial un-i-un gyda Kaite i drafod eich prosiectau unigol. Gallwch ddisgwyl adborth manwl ac anogaeth wedi’i theilwra yn ystod y sesiynau hyn, yn ogystal â chyngor penodol am gyfleoedd a allai fod o ddiddordeb i chi.

 

Sesiwn 7 (Mehefin 2026)

Bydd y sesiwn olaf yn ddathliad, ac yn gyfle i bob awdur berfformio darn byr o’u gwaith ysgrifenedig eu hunain i weddill y grŵp.

Nôl i Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad: Cyfle i Awduron Byddar a/neu Anabl a/neu Niwroamrywiol