Dewislen
English
Cysylltwch

Mae Kaite O’Reilly yn ddramodydd a dramatwrg arobryn, sy’n ysgrifennu ar gyfer y radio, y sgrin a pherfformiadau byw. Mae ei gwobrau’n cynnwys Gwobr Peggy Ramsay, Gwobr Theatr Manceinion, Gwobr Theatr-Wales a Gwobr Ted Hughes am weithiau newydd mewn Barddoniaeth. Cafodd ei hanrhydeddu yng Ngwobr Ryngwladol Eliot Hayes 2017/18 am Gyflawniad Rhagorol mewn Dramateg gydag ‘Alternative Dramaturgies informed by a Deaf and disability Perspective’.

Yn ffigwr blaenllaw ym maes celfyddydau a diwylliant anabledd, mae hi ar hyn o bryd yn ysgrifennu ac yn cyfarwyddo comisiwn Unlimited International, a chaiff ei gynhyrchu ym Malaysia a’r Deyrnas Unedig yn 2026. Mae ei gweithiau Atypical Plays for Atypical Actors a The ‘d’ Monologues wedi eu cyhoeddi gan Oberon/Bloomsbury. Roedd hi’n ddramatwrg cynhyrchu ac yn gyfarwyddwr naratif ar sioe theatr ddawns Rambert, Peaky Blinders: The Redemption of Thomas Shelby. Enillodd ei ffilm nodwedd gyntaf, The Almond and the Seahorse, gyda Rebel Wilson a Charlotte Gainsbourg, Wobr Arbennig y Rheithgor yng Ngŵyl Ffilm Dinard 2023.  

www.kaiteoreilly.com|www.kaiteoreilly.wordpress.com | @kaiteoreilly 

Nôl i Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad: Cyfle i Awduron Byddar a/neu Anabl a/neu Niwroamrywiol