Dewislen
English
Cysylltwch

Cynhaliwyd Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA yn ninas Caerdydd ar 1 Mehefin, gyda gêm derfynol y dynion yn cael ei chynnal yn Stadiwm Genedlaethol Cymru ar 3 Mehefin.

I ddathlu’r digwyddiad cofiadwy hwn i Gaerdydd a Chymru gyfan, mae Llenyddiaeth Cymru a Sefydliad Clwb Pêldroed Dinas Caerdydd (CPDC) wedi cydweithio er mwyn cynnig gweithdai pêl-droed a barddoniaeth.

Bu merched o Ysgol Y Wern ac Ysgol Gynradd Kitchener yn cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi pêl-droed gyda Sefydliad CPDC cyn gweithio gyda’r bardd clare.e.potter er mwyn creu cerddi wedi eu hysbrydoli gan Gynghrair y Pencampwyr.

Bu cyfle hefyd i’r disgyblion gyfarfod a chyfweld â thair o fenywod ysbrydoledig o fyd chwaraeon, sef: Chwaraewr tîm Merched Dinas Caerdydd Kanisha Underdown; Rheolwr Ymrwymiad Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Amy McNiven; a’r cyflwynydd radio a theledu Fran Donovan. Roedd cyfle i’r dair wrando ar ddarlleniad arbennig o’r gerdd gan ddisgyblion Ysgol Y Wern.

Canlyniad y prosiect oedd creu ffilm fer i ddathlu cyfraniad merched mewn chwaraeon, i’w rhannu ar-lein ar draws sianeli cymdeithasol Llenyddiaeth Cymru a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ar y diwrnod.

“When I grow up I want to play
professionally because football is my passion,
football is my dream – mae merched yn gallu
gwneud pethau mae bechgyn yn gallu.”
— Disgyblion Ysgol y Wern

Mae’r ffilm, sy’n cynnwys dwy gerdd gan ferched o Ysgol Y Wern ac Ysgolion Cynradd Kitchener, hefyd ar gael i’w gwylio yma:

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae cysylltiad clos rhwng llenyddiaeth a chwaraeon yng Nghymru. Braf yw croesawu’r byd i Gaerdydd y penwythnos hwn gyda lleisiau creadigol rhai o’n merched ifanc mwyaf talentog.”

Mae’r prosiect hwn yn rhan o brosiect estynedig gan Sefydliad CP Dinas Caerdydd, sef Premier League Primary Stars. Meddai Simon Stephens, ar ran y sefydliad: “Mae’n braf gallu cydweithio gyda Llenyddiaeth Cymru unwaith eto, trwy ddefnyddio chwaraeon a llenyddiaeth fel arfau i ferched ifanc gael llwyfan i fynegi eu hunain a chael cyswllt gyda merched talentog sy’n fodelau rôl arbennig.”

Derbyniodd pob un o’r sawl a gymerodd ran yn y prosiect docyn plentyn a thocyn oedolyn ar gyfer Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA rhwng Lyon a Paris Saint-Germain yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Iau 1 Mehefin 2017.


Y CERDDI

Ni Yw’r Merched And We Can Do Anything!

Codi yn y bore fel cwningen yn neidio o’r gwely,
dwi’n codi fy mag ac yn barod i fynd ati.

When I put my trainers on, I feel like I can go for it!
I run out the door, determined to go
like a fox about to chase a chicken.
I’ve got white shorts, a kit bag,
I can do sport with anything.

I put my shin pads on—no one can get past me.
I tighten my laces and tie back my hair.
Small steps build to big steps.

When I grow up I want to play
professionally because football is my passion,
football is my dream – mae merched yn gallu
gwneud pethau mae bechgyn yn gallu.

Cool, epic, fit, happy, energetic,
(Embarrassing dads on the side of the pitch)
cheering parents, smell of grass, and white paint.
In the rain, boots squelching.

Walking out of the changing rooms
with the rest of my team
the clip clop of our studs
like an army stomping through troubles.
My legs move swiftly.
I sprint down the wing. I feel unstoppable
helping my team mates score goals
stopping all opposition.

All my team are boys except me,
but girls have the same strength and agility.
My legs and arms pulling, pushing, working hard.
I feel free when I sprint like a cheetah,
all I need is faith in myself,
there goes the ball, I’m down the wing
I cross it in and 3,2,1 GOAL!!
When I score, celebration’s in the air
like all my birthdays at once.

I feel I can do anything boys can do
Nothing can stop me even
os dwi wedi methu’r penalty
dydy e ddim yn mynd i fy stopio fi.

Young women pushing themselves forward
is not easy. Don’t give up, work together
be the best you can be. Sweat. Push yourself
to the limit, a neb yn rhoi i fyny!

— Ysgol Y Wern

 

Be Resilient

Sometimes people are nasty and rude;
Make comments about the way you look,
What skin colour you are.
Rise above it, never stop believing.

No difference between genders.

Boys say you can’t play:
Ignore them, keep playing anyway.

My confidence won’t be spoilt by rude comments
Because my mother, always there for me,
Never lets anyone get in her way,
She raises me, raises me,
Tells me to be the best I can be.

My grandmother, she fought for me,
Raised 5 kids in a new country,
Made a big family and kept them all happy;
My grandmother raised my beautiful mother
My grandmother raised me as her own,
Sacrificed a lot for me and my brother,
She wasn’t like us                      she was home alone.
All our grandmothers survived. Innit!

So, be calm, be resilient,
Always give 100% of yourself, have fun whatever you do.
Sometimes you’ll win
Sometimes you’ll lose.
Always have fun, those are the rules.

— Kitchener Primary School

Nôl i Prosiectau unigol a rhai wedi eu teilwra yn arbennig