Dewislen
English
Cysylltwch

Derbyniodd Llenyddiaeth Cymru arian gan Gronfa AHNE Llŷn i gynnal gweithdai a digwyddiadau o fewn ardal y warchodfa. Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yw AHNE ac mae’r uned yn Llŷn wedi bod yn gweithio ar brosiectau er mwyn helpu i gynnal hunaniaeth unigryw yr ardal, o adfywio cerrig milltir ac arwyddion yr ardal i gynnal gwaith cynnal a chadw ar ffynhonnau’r ardal, ers blynyddoedd. Trefnodd Llenyddiaeth Cymru bum digwyddiad: gweithdai mewn dwy ysgol leol gyda’r cyfarwydd Mair Tomos Ifans a’r artist Luned Rhys Parri, dwy daith Bardd Mewn Bws ar hyd yr arfordir a Phybcrôl Llenyddol o amgylch tref Pwllheli gyda Twm Morys a Gwyneth Glyn.

Am ragor o wybodaeth am brosiect AHNE, cliciwch yma.

Nôl i Prosiectau unigol a rhai wedi eu teilwra yn arbennig