Mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Cymru, fe drefnom weithdai gyda disgyblion blwyddyn 9 yn Ysgol Maes Garmon, Wyddgrug; Ysgol Gyfun Aberaeron, ac Ysgol Garth Olwg. Roedd y gweithdai – a gynhaliwyd yn ystod taith Theatr Genedlaethol Cymru o’r cynhyrchiad Y Tad – yn archwilio effaith Dementia ar fywydau gwahanol bobl ac yn cyfuno ysgrifennu creadigol a pherfformio.
Cafodd rhai o’r delweddau trawiadol a grëwyd gryn effaith ar un o’r awduron a fu’n arwain y gweithdai, Aneirin Karadog: