
Mae Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli, yn gyfle datblygiad proffesiynol i awduron o Gymru, mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru, gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd ceisiadau ar gyfer Awduron wrth eu Gwaith 2026 yn agor i geisiadau ar 28 Ionawr.
Mae’r cyfle datblygu proffesiynol hwn i awduron o Gymru yn digwydd yn ystod Gŵyl y Gelli. Mae’r rhaglen 10 diwrnod o hyd yn galluogi’r awduron llwyddiannus i fynychu dosbarthiadau meistr, gweithdai ac i rwydweithio gydag awduron, cyhoeddwyr, asiantaethau ac aelodau o’r wasg o Gymru, y DU a thu hwnt. Mae rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed, ac mae 10 lle ar gael.
Gallwch ddarllen rhagor am yr awduron oedd yn rhan o gynllun 2025 yma.
(Hawlfraint lluniau: Billie Charity & Adam Tatton-Reid)