Dewislen
English
Cysylltwch

Bywyd Bendigaid

Yn amlach na pheidio, mae Dwynwen yn syllu allan drwy’r ffenestr.
Yr awyrgylch yn dal cyfnos aur o siom.
Pan mae’r golau’n ei tharo, yn lleugylch ar gopr brith ei gwallt,
mae’n clywed clychau’n canu dan arwyneb niwlog 

y sinc, eu cnul rhwng llestri sebonllyd a chyllyll a ffyrc.
Mae ei chariad yn sefyll gyda llwy, yn barod i droi ei the.
Ond mae o’n toddi’n awr. Mae’n hafn o rew yn hollti’r gegin.  

Mae Dwynwen yn gwylio wrth i holl ddafnau bach eu cariad ymddatod,  

a’i hynysu wrth y sinc. Mae’n mesur y pellter rhyngddynt,
y dŵr yn rhuo fel dadl dywyll. Mae ci Dwynwen yn neidio
ar gadair wrth i’r awyrgylch waedu dros y gegin i gyd.
Unwaith eto, mae ei llygaid yn gwyro oddi wrth y tarfu beunyddiol.
Tynerwch yn ei harwain allan dros y culfor i’r gofod unig hwnnw,
mor ddedwydd a’r hunan sêl ar gariad sy’n sibrwd bendith ym mreuddwydion
merched sy’n cysgu. Ond mae cwyno mwyn ei chi yn tynnu Dwynwen  

yn ôl. Mae’r rhwyg yn cilio ddigon iddi weld llygedyn o olau’r bywyd bendigaid –  

petheuach garw gwydr môr yn meddalu’n gyfoeth o ddim byd.
Mae’n troi ei chefn ar y ffenestr, ac addewid y culfor.
Rhodia yn ôl at ei chariad ar draws y gegin. 

 

Mae gen i lond ffenest o Eryri. Weithiau, dwi’n eu gweld nhw, yr eryrod mawr efo’i plu lliw hydref yn torri’r awyr yn ddwy – ond pan dwi’n sbio’n iawn, dim ond gwylanod sy’ ’na, gwylanod lliw rhew, ryw wyn sy bron iawn iawn yn las. Ac mae’r mynyddoedd yn edrych i lawr arna i, wastad yn gwatshad, yn hel eu stormydd yn ara’ bach.  

A dwinna’n syllu nôl.  

Un diwrnod yn ddiweddar, sylweddolais ’mod i wedi dechrau mwynhau’r defodau bach tawel o edrych ar ôl fy hun. Golchi ’nillad nes fod y cotwm yn wyn ac yn lân ac yn cario dim straeon; sgrwbio carreg y drws nes fod y lechen bron iawn yn ddu efo dŵr; golchi’r llestri y bûm i’n bwyta ac yn yfed ohonyn nhw, eu gwaredu nhw o fy hoel fy hun. Arogl sebon yn lle f’arogl i. Rydw i wedi mynd i awchu diffyg, hefyd – dim pethau del ar y waliau na blodau mewn jwg ar sil y ffenest, dim addurn na phatrwm ar ddillad na dodrefn, dim byd nad ydy o’n gwbl angenrheidiol. Am gysur ydi deall fod ’na gyn lleied sy’n angenrheidiol! Am gysur mewn cwpwrdd gwag, cynfas wen, y gorwel yn ymestyn yn gynnil ddestlus fel llinell dan ddiwedd stori.  

 

Cerdd gan Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru. Cyfieithiad Cymraeg gan Meleri Davies, 
Rhyddiaith gan Manon Steffan Ros 

Nôl i Cerddi Comisiwn a Gwaith Creadigol Hanan Issa