Dewislen
English
Cysylltwch

Ar ôl i amser drwytho’r blynyddoedd sy’n weddill,

a 2050 fel chwedl a fu,

 

bydd pobl Pontypridd yn hawlio mai nhw oedd y cynta’ i gael eu colli,

y dafnau slei o Afon Taf yn diferu i’w cegau cwsg,

 

a’r oedolion yn rhifo’r hadau a gasglwyd, gronynnau tywod a phethau sych eraill

a oeddynt am adael i blant eu plant.

 

Y gwir yw, bydd angen mwy o enwau am gartrefi sy’n nofio.

Y gwir yw, dihunwn yn rhy hwyr, yn dyheu am draed fel hwyaid.

 

Dychmyga ryw fore gael hyd i’r un neges fwdlyd mewn potel:

“Gair caredig yw’r gwahaniaeth rhwng digonedd ac anobaith.”

 

Mae’r teimlad hwnnw, a’n bysedd yn boddi mewn byd a fu,

a’n socials yn gyforiog o swsus a chariad,

 

a’r hamdden gennym i hwylio damhegion a dreiddia dan groen,

mae’n nofio oddi wrthym, fel       y          llifa                 geiriau           drwy              gerdd.

 

A’r peth yw, nid oes modd plannu hadau mewn dilyw.

Boddi a wnânt, yn drwm gan obaith,

 

megis breuddwydion neu lyfrau neu frics.

Hwyrach gall Arabiaid y Gors ein dysgu sut mae codi tai brwyn,

 

sut mae trwsio bydoedd bach, llenwi’r craciau â gobaith llond llaw,

cyn i bopeth arall gael ei gipio gan y dŵr.

 

Y gwir yw, ni wn ba beth a wnawn

pan fydd Cymru a’r môr wedi mynd yn un.

 

Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru

(Cyfieithiad Cymraeg gan Ifor ap Glyn)

 

Wedi ei chyffwrdd gan straeon am effaith llifogydd ym Mhontypridd wedi stormydd Dennis a Bert, cydweithiodd Hanan Issa gyda’r gwneuthurwr ffilm Ruslan Pilyarov i gyfleu’r sefyllfa yn yr ardal trwy gerdd fideo. Comisiynwyd ‘Homes that Float / Catrefi sy’n Nofio’ gan Llenyddiaeth Cymru a chafodd ei ryddhau ar Ddiwrnod Rhyngwladol Gweithredu dros Afonydd, 14 Mawrth 2025. 

Nôl i Cerddi Comisiwn a Gwaith Creadigol Hanan Issa