Dychmyga’r llaw sy’n dod â bywyd i gynfas.
Yn haenu dawns o liwiau gwyrdd a phob math o las,
wrth i lygaid chwilio am dir sy’n dysgu canu
yn yr ehangder maith rhwng pedair cornel.
Caiff y llygaid sy’n syllu o ddiogelwch yr oriel
eu distewi gan floedd y lliwio ffyrnig. Eu tarfu
wrth sylweddoli y gall lliwiau arswydo ac anwesu,
lapis lazuli a chobalt yn ymestyn i’r pellter ond hefyd yn ôl, yn ôl,
yn ôl, gan gordeddu dant y llew gyda glaswyrdd a grug.
Dychmyga ei llaw, fel ‘deryn ar dennyn,
yn ‘sgubo ar draws y ddalen arw â’i rhwygiadau blin,
yn gosod geiriau fel offrymau petalog.
Edrycha, mae’r cymylau’n cyfansoddi gair!
Tybed ai cân oedd y gair? Cytgan arbrofol
a wehyddwyd rhwng brwsh neu bin a’i bysedd chwilfrydig,
y milain a’r mirain yn codi eu lleisiau.
Ond nid pawb sy’n rhugl yn iaith y bryniau, y creithiau a’r carennod.
Yn amharod i agor pâr gwahanol o lygaid,
maen nhw’n ddall i’r symbolau sy’n cael eu taenu ganddi fel les
wrth greu brithweithiau sy’n plethu cyrff a lleoedd – breast, nape, back.
Mae llaw yr artist yn gwahanu llieiniau gwynion sy’n crynu yn y gwynt,
yn dadlennu fel y gall paentiadau neu gerddi newydd rwygo eu hunain i fodolaeth.
Nid yw cynfas yn fap, ond eto daw llwybrau i’r golwg,
yn debyg i siâp llaw sy’n dyheu, sy’n chwilio.
Hanan Issa
Bardd Cenedlaethol Cymru | National Poet of Wales
Cyfieithiad Cymraeg gan Elinor Gwynn