Boed heli yn dy hwyliau
ym more’r daith;
boed i’th gamau rif y gwlith
bwytho’r ffin rhwng tir a môr,
a’r gorwel yn gwâdd o hyd…
Ac heno,
hefo edau coch y machlud
yn dirwyn y daith i ben,
boed i atsain y don
dy ddilyn am ryw hyd…
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(Cerdd fideo wedi ei chomisiynu i ddathlu pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru yn 10 yn 2022.)