Egni Cymwynas
Mae stadiwm ein gwlad yn dywyll
ond yn bair o bosibliadau…
(er nad oes band am chwarae)
Ymhlith y rhesi gwag, mae adlais torf
yn chwyddo’n gytgan;
a gwreichion hen haelioni
yn ffaglu’n fil o fflamau mân.
Peth felly yw egni cymwynas –
y trydan cudd, ymhob cwr o’n gwlad,
sy’n nôl ffisig,
neu’n gwneud neges;
sy’n rhannu sgwrs
fel rhosyn annisgwyl;
sy’n gylch,
pan freichiwn ein gilydd
o bell…
Ac wrth i ni anturio
drwy diroedd newydd ein hen gynefin,
yr ail-fapio yw ein her;
ond er chwithdod
cofleidiau rhithiol,
a diflastod
pob clo dros dro,
mae gwefr mewn cymwynas o hyd:
– fel cyffwrdd yr haul â blaen bys! –
a llewyrchwn fel gwlad yn ei sgîl…
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(i gydfynd ag Oriel ‘Arwyr Cymunedol mewn cyfnod COVID’ yn y Senedd, Tachwedd – Rhagfyr 2020. Comisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a Llenyddiaeth Cymru)