Gwenu
“‘Cultural choke’ oedd dod i Gymru,”
meddai Rafiq yn herciog,
wrth godi ei goffi i’w geg.
Dyna ddudodd,
er mai ‘sioc’ oedd gynno fo ‘debyg iawn.
Ond dyma feddwl wedyn:
tybed fedar rhywun dagu ar ddiwylliant?
Methu’i lyncu, na’i dreulio?
“Ac mae pawb yn gwenu ‘ma,” meddai Rafiq.
“Dio’m yn arfer gynnon ni acw
– ddim hyd yn oed ar gyfer lluniau Facebook!”
Sgyrsion ni am awr,
a dechreuis i ddallt
mai ‘cultural choke’ yw:
cael gobeithio eto;
cael cynllunio er mwyn y plant,
a gwybod na ddaw dim byd gwaeth na glaw
o’r awyr.
Syllodd Rafiq i’r pellter.
“Byddwn ni’r alltudion,” meddai,
“yn dysgu sgiliau newydd fa’ma, siwr o fod –
a dôn nhw’n handi ryw ddydd,
wrth godi’n hen wlad yn ei hôl…”
Gwagiodd ei goffi, a gwenu.
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(ar ôl sgwrs hefo grŵp o ffoaduriaid o Syria sydd wedi setlo yn ardal Bangor)