Mae’r nodau pêr fel cawod pinnau sydd
yn tincial ddisgyn drwy ei bysedd hi;
a’i halaw fel yr haul ar derfyn dydd
yn llosgi am ryw ennyd ar y lli.
Wnaeth fyrfyfyrio ‘Enlli’ agor drws;
‘Gwenllian’ a’i meddiannodd, a’i rhyddhau;
‘Carn Ingli’ gyda’r un brawddegu tlws –
pob un â dyfnder hŷn, ond angerdd iau.
Ac rhyfedd mai yn hwyrddydd oes y daeth
athrylith hon fel gwawr i lwyfan byd;
a hithau’n llacio staes traddodiad caeth,
tra’n rhannu’i dysg â’i chywion yr un pryd.
Mae gwlith y bore’n swyn ei thelyn hi –
a Llio bellach yw ein ‘Nansi’ ni.
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(Dyma gerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, i longyfarch y delynores Llio Rhydderch ar dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Bangor, 19 Gorffennaf 2018)