Sgyrsiau
Rhwydd iawn deialu rhyddhâd
o’n hiraeth, drwy gyd-siarad,
rhannu hwyl, rhannu eiliad…
Onid gwych yw clywed gwên
y lles clws sydd mewn llais clên,
fel gwefr yng ngofal gwifren?
A ffonio ein gorffennol
a ddaw â’r hen alaw ‘nôl
i swyno ein presennol…
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru / National Poet of Wales
(Comisiynwyd gan BT. Gellir gwylio fersiwn fideo hyfryd o’r gerdd yma.)