Wyt ti’n fardd sydd wrth dy fodd yn gweithio gyda phlant? Wyt ti’n credu yng ngrym llenyddiaeth i ysbrydoli, gwella a chyfoethogi bywydau – yn enwedig bywydau pobl ifanc? Wyt ti’n awyddus i ddathlu a chynrychioli ieuenctid Cymru – eu dyheadau a’u hawliau – ar lwyfannau cenedlaethol? Yna rydyn ni am glywed gennyt ti!
Clicia ar y llun isod er mwyn islwytho’r pecyn recriwtio. Mae’r pecyn hefyd ar gael fel dogfen Word, mewn print bras ac mewn fformat dyslecsia gyfeillgar ar waelod y dudalen hon.