Dewislen
English
Cysylltu

Mae Casi Wyn yn wyneb cyfarwydd yng Nghymru a thu hwnt fel cantores a chyfansoddwraig o ardal Bangor. Mae ei chaneuon Aderyn, Dyffryn, ac Eryri yn cael eu chwarae’n gyson ar orsafoedd radio ledled Prydain. Mae Casi hefyd yn un o sefydlwyr gwasg annibynnol a chylchgrawn Codi Pais, sydd yn annog lleisiau newydd ac amrywiol. Yn 2021 fe ryddhaodd lyfrau dwyieithog cerddorol i blant, Tonnau Cariad a Dawns y Ceirw. Dangoswyd ei ffilm fer gerddorol animeiddiedig Dawns y Ceirw ar S4C ar noswyl Nadolig 2020.

Mae Casi yn edrych ymlaen yn fawr at danio dychymyg plant a phobl ifanc Cymru drwy eiriau ac alawon. Mae dathlu amrywiaeth Cymru a phontio cymunedau drwy hud barddoniaeth yn flaenoriaeth ganddi, ac mae hi hefyd yn awyddus i wau’r thema byd natur drwy’r gwaith yn ystod ei chyfnod yn y rôl.

Yn ogystal ag ymweliadau ysgolion, bydd rhaglen weithgaredd Casi yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau cymunedol, cenedlaethol a rhyngwladol, chyfrannu at Siarter Iaith Llywodraeth Cymru, a bydd yn cyfansoddi cerddi amrywiol i nodi digwyddiadau ac ymgyrchoedd o ddiddordeb i blant a phobl ifanc. Bydd modd i ysgolion ymgeisio am ymweliad llawrydd gyda Casi yma ar wefan Llenyddiaeth Cymru.

 

Nôl i Bardd Plant Cymru